Bydd lleoliad cerddorol cymunedol yn Abertawe’n cau ei ddrysau ar ddiwedd y flwyddyn yn sgil y cynllun pasys Covid.
Mae Creature Sound ar y Stryd Fawr yn dweud nad ydyn nhw am gau tan ddiwedd y flwyddyn er mwyn bod modd cynnal y digwyddiadau sydd eisoes wedi’u cadarnhau.
Ond fyddan nhw ddim yn cynnal rhagor o ddigwyddiadau o Ionawr 1.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “gweithredu gofod sy’n cynnwys pawb heb wahaniaethu” a’u bod nhw’n ymfalchïo yn y ffaith eu bod nhw’n “ofod cyfle cyfartal”, a bod ganddyn nhw staff a chwsmeriaid sydd wedi cael dau ddos o frechlyn, un dos neu heb eu brechu o gwbl.
“Rydyn ni’n teimlo fel pe baen ni wedi cael ein rhoi yng nghanol sefyllfa amhosib,” meddai’r neges.
“Mae’r canllawiau ar hyn o bryd yn caniatáu profi a hunanddatgan, ond mae hefyd yn awgrymu bod yr opsiynau hynny am ddirwyn i ben yn raddol.
“Mae rhai o’n staff a’n cwsmeriaid heb eu brechu, rhai oherwydd pryderon ac eraill am resymau meddygol.”
‘Dau ddosbarth o bobol’
Maen nhw’n dweud, pe bai’r cyfyngiadau’n parhau fel ag y maen nhw, y byddai’n creu “dau ddosbarth o bobol, boed nawr neu yn y flwyddyn i ddod” – y rhai sydd wedi’u brechu a’r rhai sydd heb.
Ond maen nhw’n dweud hefyd y daw’r amser pan fydd effeithiau’r brechlyn wedi dod i ben ar ôl chwe mis, ac y bydd yr un sefyllfa’n codi bob tro mae angen dosys atgyfnerthu ar bobol.
“Gallwn weld eisoes fod enghreifftiau o hyn ar waith ledled y byd mewn sawl gwlad arall, ac mae dweud na fydd yn digwydd yma’n ymddangos yn nacâd.
“Allwn ni ddim bod yn rhan o unrhyw gynllun, rhaglen, triniaeth na grŵp o fusnesau fydd yn caniatáu i reolau sy’n gwahaniaethu gael eu defnyddio ar ein cyd-ddinasyddion.”
Maen nhw’n dweud nad ydyn nhw’n “dadlau am ddilysrwydd brechlynnau nac a ddylech chi neu eich anwyliaid ei gael”, ond yn hytrach, “yn erbyn canlyniadau’r hyn allai ddigwydd maes o law pe bai’r drefn o gosbi a breintiau’n cael parhau heb ei wirio”.
‘Cŵn Pavlov a syndrom Stockholm’
Mae’r sefyllfa, medden nhw, “yn gwneud i ni deimlo fel cŵn Pavlov gyda dogn o syndrom Stockholm”.
“Allwn ni ddim bod yn agored a theg mewn cymdeithas sy’n cyfiawnhau unrhyw fath o raniad,” meddai wedyn.
“Rhaid i ni ddysgu o wersi’r gorffennol. Mae gwledydd cyfan yn y gorffennol wedi bod yn argyhoeddedig fod un dosbarth o ddinasyddion yn well nag un arall.
“Yn y gorffennol, roedd hyn yn seiliedig ar hil, crefydd a diwylliant. Mae e nawr fel pe bai’n seiliedig ar eich statws meddygol a mesur o’ch credyd cymdeithasol.
“Fyddwn ni ddim yn rhan (drwy gynnal y rheolau presennol yn enwedig os ydyn nhw’n dileu rhai o’r amodau presennol ac yn eu gwneud nhw’n orfodol ar gyfer mynediad) o bwyso, cosbi, herio, gorfodi, cywilyddio unrhyw grŵp o bobol i dderbyn unrhyw driniaeth neu brawf meddygol.
“Mae gan y bobol hyn hawliau cyfartal, dewis, yr hawl i ddewisiadau corfforol.
“Dydy’r rheolau ddim ar hyn o bryd yn orfodol yn gyfreithiol i’r staff a’r criw ac mae hyn am reswm pendant. Fe fyddai’n anghyfreithlon.
“O ganlyniad, rydym yn teimlo y byddai’n anghyfreithlon i ni fod yn rhan – neu’n cynorthwyo mewn – ymosod, clwyfo, annog, gwahaniaethu neu achosi niwed meddyliol i berson byw.”
Maen nhw’n ychwanegu bod “caniatâd” yn greiddiol i’r drefn.
‘Ildio fel cymdeithas’
“Rydyn ni wedi bod yn ddigon anffodus i brofi drosom ein hunain bobol sy’n dweud y dylid casglu pobol sydd heb eu brechu ynghyd, eu gorfodi i gael brechlyn a’u hynysu,” meddai’r datganiad wedyn.
“Dyma’r arwydd cyntaf eich bod chi wedi ildio fel cymdeithas i drin eich cyd-ddyn cyfartal fel dinesydd eilradd, sy’n werth llai na’r rheiny sy’n cytuno â’ch safbwyntiau.
“Fel yr Affricaniaid, cafodd rhan fawr o boblogaeth y byd eu hargyhoeddi i feddwl nad oedden nhw’n teimlo poen ac nad oedd ganddyn nhw hawliau na deallusrwydd a’u bod nhw wedi’u caethiwo.
“Cawson nhw eu rhyddhau yn ddiweddarach, ond roedd rhan helaeth o boblogaeth y byd yn dal i gael eu cyflyru i’w trin nhw fel dinasyddion eilradd ar wahân.
“Neu’r Iddewon a gollodd eu hawliau ar ôl dioddef colli eu breintiau, un ar y tro, hyd nes ei bod yn gymdeithasol dderbyniol i’w gorfodi nhw i gydymffurfio.
“Gwledydd cyfan yn cael eu darbwyllo i sefyll gyda’u llywodraeth i achosi erchyllterau yn seiliedig ar farn gyhoeddus fod grŵp dynol arall yn llai o beth na nhw.”
Gelyniaethu
“Allwch chi ddim cymharu’r sefyllfaoedd hynny â phobol sy’n ddigon hunanol i beidio â chael brechlyn. Go iawn?! Onid ydyn ni’n cael ein cyflyru i weld ein gilydd fel gelynion?” meddai wedyn.
“Dydyn ni ddim eisiau cysylltu ein hunain ag unrhyw blaid wleidyddol.
“Ar hyn o bryd, rydym yn grac na all pawb roi eu gwahaniaethau i’r naill ochr yn ddigon hir i frwydro gyda’i gilydd am yr un hawl ddynol bwysig iawn hon.
“Yr hawl i ganiatâd heb bwysau.
“Brwydr rydym wedi gweld y mwyafrif yn sefyll i fyny drosti ar bob mater cymdeithasol amlwg, mae’n ymddangos, heblaw brechlynnau.
“Dyma’r llinell yn y tywod trwy gytundebau erioed. Unwaith mae eich hawl i gydsynio wedi mynd, mae hi wedi mynd am genedlaethau i ddod.”
Cydsefyll â sinema leol
Wrth ddirwyn y datganiad i ben, dywed Creature Sound eu bod nhw’n “cydsefyll â safiad, penderfyniad ac esiampl ddewr Anna Redfern” yn Cinema & Co.
“Rydym yn credu y dylai eraill sefyll i fyny a pheidio â chydymffurfio â gwahaniaethu chwaith.
“Fodd bynnag, rydym wedi penderfynu lleisio ein hatgasedd drwy beidio â chymryd rhan yng ngweithredu’r gorchmynion hyn.
“Dydyn ni ddim yn dymuno cymryd rhan mewn gweithgarwch niweidiol.
“Dydyn ni ddim am fasnachu ceiniog er mwyn ennill incwm yn seiliedig ar weithredoedd sy’n gwahaniaethu.
“Rydym oll wedi cytuno i gau ac i aros ar gau yn barhaol yn hytrach na cholli ein dynoliaeth.
“Diolch am eich cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd a’r atgofion hyfryd. Fydd y gerddoriaeth fyth yn marw cyhyd ag y bo yn ein calonnau.”
Galw ar sinema annibynnol i ymbellhau oddi wrth “grwpiau asgell dde eithafol”
Sinema annibynnol yn anwybyddu gorchymyn i gau tros y pasys Covid-19
Sinema annibynnol yn Abertawe’n gwrthod gweithredu pasys Covid