Mae archeolegwyr wedi bod yn archwilio safle caer o’r Oes Haearn yn Aberystwyth – am yr eildro yn ei hanes,
Dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl roedd bryngaer Pen Dinas yn “gampwaith o bensaernïaeth a pheirianneg yr Oes Haearn”.
Hon yw’r fryngaer fwyaf o’r Oes Haearn yng Ngheredigion – ac mae’n dyddio o tua 400 mlynedd cyn Crist.
Roedd y fryngaer enfawr yn amgylchynu ardal o 3.5 hectar, tua’r un maint â thri a hanner cae rygbi.
Bu Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn gweithio ar y safle am y tair wythnos diwethaf ar ôl derbyn cyllid gan Cadw, y corff sy’n gyfrifol am ofalu am lefydd hanesyddol yng Nghymru.
Dywedodd Fran Murphy o’r ymddiriedolaeth sy’n arwain y gwaith cloddio wrth Cymru Fyw: “Mae’n heneb mor enfawr – ac roedd y gwaith a aeth mewn i’w greu i gyd wedi’i wneud gan bobl gydag offer llaw, doedd dim JCBs na chloddwyr mecanyddol yma.
Ased
“Mae’n ased ar gyfer Aberystwyth gyfan. Rwy’n credu tasen ni’n gallu gwella’r mynediad a gwella’r arwyddion er mwyn gwneud pobl yn ymwybodol pa mor hygyrch y gall fod, a denu pobl yma i edrych o’u cwmpas a gweld sut mae’n rhan o’r hanes sy’n gwneud Aberystwyth a’r ardal gyfagos beth ydyn nhw heddiw.”
Y darganfyddiadau pwysicaf yn ystod y cloddio diweddar yw glain ambr, a ddefnyddiwyd yn ôl pob tebyg fel darn o emwaith yn ôl yr archeolegwyr.
Hefyd olwyn garreg – troellwr gwerthyd mae’n debyg a ddefnyddiwyd wrth wehyddu.
Dywedodd Fran Murphy eu bod wedi eu darganfod mewn lleoliad a oedd yn awgrymu eu bod wedi cwympo o dan lawr un o’r tai y tu mewn i waliau’r gaer.
Cywrain
“Rwy’n credu eu bod wedi mynd ar goll – fe’u canfuwyd ar blatfform cwt lle’r oedd rhywun yn byw ac y bydden nhw, yn ôl pob tebyg, wedi cwympo trwodd o dan y llawr.
“Mae’r ambr yn ddarganfyddiad eithaf prin a byddai’r person, pwy bynnag oedd yn berchen ar rhain, yn flin eu bod wedi mynd ar goll.”
Yn ôl y Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru roedd y fryngaer “wedi dechrau bywyd fel safle amddiffynedig syml ar gopa’r gogledd” o fryn Pen Dinas.
Dywed y cofnod y byddai wedi ei “amgáu gan ragfur o rwbel wedi’i bacio a ffos allanol. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach ar ôl i’r cyntaf gael ei adael, efallai tua 400-300cc, adeiladwyd caer newydd ar y copa uwch i’r de, gyda gatiau cywrain a rhagfur sylweddol o waliau cerrig gyda ffos allanol.”
Datblygwyd y safle dros amser ac adeiladwyd rhagfuriau ychwanegol yn cysylltu’r copaon i’r gogledd a’r de, ar draws darn o dir sy’n cael ei alw’n isthmws.
Yn ôl Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, byddai Pen Dinas “yn ei anterth [yn y degawdau diwethaf cyn Crist]… yn gampwaith o bensaernïaeth a pheirianneg yr Oes Haearn”.
Dywed y cofnod y byddai gan y gaer “giât isthmws â waliau cerrig… mor uchel ag adeilad deulawr ac fe’i croeswyd gan bont bren wedi’i chynnal ar bedwar postyn pren enfawr”.
Gwaith cloddio’n dechrau ar fryn Pen Dinas ger Aberystwyth