Mae gwaith cloddio archeolegol wedi dechrau ym Mhen Dinas ger Aberystwyth yn y gobaith o “gael mwy o gywirdeb o ran cyfnod y fryngaer”.

Bydd gwirfoddolwyr yn cynnal y gwaith yn y fryngaer dros y tair wythnos nesaf hyd at ddydd Gwener, Hydref 1.

Does dim cloddio ar y raddfa hon wedi digwydd ar y safle ers y 1930au, felly mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn gobeithio canfod gwybodaeth newydd gan ddefnyddio technegau ac offer modern.

Fe gawson nhw gyllideb gan Cadw i sicrhau bod modd i’r gaer o’r Oes Haearn gael ei harchwilio ymhellach.

‘Mwy o gywirdeb’

Mae Ken Murphy, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, yn dweud mai “cael mwy o gywirdeb o ran cyfnod y fryngaer” yw diben y gwaith.

“Fyddwn ni’n gweithio ar fynedfa ddeheuol y fryngaer, gydag aelodau’r cyhoedd sy’n gwirfoddoli,” meddai wrth golwg360.

“Dyna’r un lle â gafodd ei gloddio yn y 1930au, felly byddwn ni’n ailagor rhai o’r pyllau a gafodd eu gwneud adeg hynny i wirio’r record a gweld beth gafodd ei golli bryd hynny.

“Rydyn ni’n gobeithio cael samplau i ni gael eu dyddio’n wyddonol er mwyn cael mwy o gywirdeb o ran cyfnod y fryngaer.”

Pen Dinas o Benparcau, Aberystwyth

“Wedi ei esgeuluso”

Mae lleoliad bryngaer Pen Dinas yn amlwg i bobol Aberystwyth oherwydd bod cofeb arwyddocaol Dug Wellington yn sefyll yno ers 1858.

Er hynny, mae’n anodd i ymwelwyr gyrraedd y safle ar ben y bryn erbyn hyn.

“Mae’r safle wedi ei esgeuluso mewn ffordd,” meddai Ken Murphy.

“Mae’n le trawiadol iawn – yn archeolegol ac o ran golygfeydd – ond mae’n anodd i dwristiaid gyrraedd y safle achos ei fod mewn cyflwr gwael a phlanhigion wedi gordyfu.

“Rydyn ni eisiau codi proffil y safle achos mae’n ased gwych i dref Aberystwyth, a dylai fod mwy o bobol yn gwybod amdano.

“Byddwn ni’n cael y bêl yn rowlio dros y tair wythnos nesaf, ond rydyn ni’n dymuno cael mwy o gyllideb i gynnal prosiect dros sawl blwyddyn.”