Mae perchennog clwb pêl-droed Dinas Bangor wedi dweud ei fod wedi gorfod delio â “sibrydion negyddol” ers dod yn lywydd ddwy flynedd yn ôl.

Cafodd Domenico Serafino ei benodi’n llywydd ac yn unig gyfarwyddwr y clwb fis Medi 2019.

Er fod pryderon am ddyfodol y clwb dan ei arweinyddiaeth – mae Mr Serafino yn dweud eu bod yn deillio nôl i broblemau o dan y cyn-berchnogion gyda’r clwb yn agos iawn i fod yn fethdalwr ar un adeg.

Mewn datganiad mae’n dweud ei fod yn ceisio ailadeiladu’r clwb, wedi talu 90% o’r dyledion hanesyddol ac yn ail-negydu’r gweddill.

Dywed ei fod wedi gorfod delio gyda “dyledion anferthol” a’i fod wedi buddsoddi dros £1m yn y clwb.

Helynt

Dywed ei fod yn ailadeiladu’r academi, wedi canfod llety newydd ac addas i’r chwaraewyr a’i fod wedi rhoi cymorth i’r gymuned leol, gan gynnwys rhoi arian i’r ysbyty lleol.

Ond mae cwestiynau wedi codi am ddyfodol y clwb yn dilyn ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C.

Bu’r clwb mewn helynt ariannol ychydig flynyddoedd yn ôl dan berchnogion blaenorol, ac mewn cyfnod cythryblus, fe adawodd nifer o’u cefnogwyr mewn protest gan ffurfio clwb newydd yn y ddinas, sef Bangor 1876.

Tanseilio

Mae clwb Dinas Bangor wedi ennill Cwpan Cymru wyth gwaith ac yn bencampwyr adran uchaf pêl-droed domestig Cymru deirgwaith ers dechrau’r nawdegau. Ennillodd Bangor fuddugoliaeth enwog yn erbyn Napoli ym 1962.

Tan fis Mawrth eleni, roedd Mr Serafino hefyd yn berchennog ar glwb pêl-droed Sambenedetesse oedd yn chwarae yn Serie C – trydedd adran yr Eidal.

Ond ar ddiwedd y tymor diwethaf, fe aeth clwb Sambenedetesse i’r wal. Mae’r clwb bellach wedi ailffurfio ond wedi eu gorfodi i ail-ddechrau o Serie D – lefel isaf pêl-droed y wlad.

Mae Mr Serafino yn rhoi’r bai ar gefnogwyr anhapus Bangor am y sibrydion ac yn cyhuddo ei wrthwynebwyr o geisio ei danseilio.

Dywed: “Ar ben hyn mae ’na bartïon â diddordeb sydd wedi ceisio dwyn y clwb oddi wrthyf yn ystod y pandemig a lledaenu sibrydion maleisus yn rheolaidd.

“Felly’r un grŵp sy’n ceisio dwyn y clwb oddi wrthyf fi nawr yw’r rhai sy’n ceisio dod â’r perchnogion blaenorol yn ôl, y rhai a achosodd gymaint o raniadau dwfn ac a arweiniodd at glwb ar wahân yn torri i ffwrdd yn y lle cyntaf.”

Mae Mr Serafino yn credu bod y cyhuddiadau sy’n ymwneud â’r clwb Eidalaidd Sambenedettese a ddatgelwyd gan S4C, yn ymwneud â chriw sydd â diddordeb mewn  meddiannu’r clwb.

Mae’n gorffen ei ddatganiad drwy ddweud ei fod yn benderfynol o arwain CPD Dinas Bangor yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru a bod y cyfrifon i gyd mewn trefn.