Mae nhw i gyd yn olygfeydd bob dydd o Abertawe – gan gynnwys rhai ychydig mwy anarferol fel yr un o eliffantod yn cerdded lawr y stryd.

Roedd yr elliffantod yn rhan o orymdaith syrcas yn y 1970au.

Ymhlith casgliad o ffotograffau o’r 1960au ymlaen mae un o gannoedd o bobl yn dathlu dyrchafiad Dinas Abertawe i’r hen Adran Gyntaf ym mis Mai 1981 ac un arall o gar uwchsonig.

Mae’r casgliad wedi eu rhoi fel rhodd i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn Abertawe.

Cofnodi

Mae’r ffotograffau ymhlith llawer o eitemau sy’n cael eu rhoi i’r gwasanaeth archifau bob blwyddyn.

Dywedodd yr archifydd sirol Kim Collis ei fod yn arbennig o falch o’r casgliad ffotograffig, a dderbyniwyd drwy garedigrwydd y ffotograffydd Derek Gabriel.

Meddai: “Rydym wrth ein bodd o gael mwy o ffotograffau o Abertawe i’w hychwanegu at ein casgliadau ac mae’r albymau hyn a grëwyd gan Mr Gabriel yn dangos golygfeydd stryd Abertawe, na fyddai’r rhan fwyaf ohonom byth yn meddwl amdanynt yn cofnodi.

Cyffredin

Mae Abertawe’n newid, fel llawer o drefi a dinasoedd eraill, ond y delweddau hynny o fywyd cyffredin sy’n denu sylw llawer o bobl, yn ôl yr hanesydd a’r awdur Gerald Gabb.

“Mae llawer ohonyn nhw ar y cyfryngau cymdeithasol,” meddai.

“Y math yna o hanes y mae pobl gyffredin yn tueddu i fod ynddo mewn gwirionedd.”

Elliffantod yn ymuno yng ngorymdaith y syrcas hyd strydoedd Abertawe