Mae merch o Bowys am wneud pum marathon mewn 24 awr i godi arian ar gyfer yr uned cemotherapi yn Ysbyty Bronglais.

Bydd Milly Jerman, 28 oed, o Carno, yn rhedeg marathon, yn rhwyfo marathon, yn sgïo marathon a gwneud dau farathon ar feic – cyfanswm o 131 milltir mewn un diwrnod.

Mae hi’n gobeithio codi arian ar gyfer yr Uned Dydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth fel diolch am “y gefnogaeth barhaus maen nhw’n ei rhoi i un o fy hoff fodau dynol, Rhys, yn ei frwydr yn erbyn canser y ceilliau.”

Mae Milly hefyd yn codi arian er cof am ei nain, ar gyfer Gofal Canser Marie Curie.

Bydd yr her yn cychwyn ar 23 Hydref, sef pen-blwydd colli ei nain, ac mae hefyd ychydig dros flwyddyn ers i’w ffrind gael ei lawdriniaeth.

Dywedodd Milly : “Rwy’n cychwyn yn Carno, ac yn rhedeg i’r Drenewydd, gan orffen yng nghampfa NMAC, lle byddaf yn cwblhau gweddill yr her pum marathon.

Hyfforddi

“Rydw i wedi bod eisiau gwneud rhywbeth dros elusen, er cof am fy nain. Yna cafodd fy ffrind ei frwydr a chanser y ceilliau, felly roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n bryd gwneud rhywbeth. Roedd gwybod beth mae’r ddau ohonyn nhw wedi mynd drwyddo yn golygu fy mod i angen iddo yn her fawr.

“Mae’r her yn enfawr! Fe wnes i farathon tua phum mlynedd yn ôl a dywedais na fyddwn i byth yn ei wneud eto, ond y tro hwn wedi penderfynu gwneud pump. Ar hyn o bryd rwy’n hyfforddi wyth gwaith yr wythnos, tua 15 awr yr wythnos.”

“Rwy’n gobeithio codi cymaint â phosib, trwy raffl a nawdd. Rwy’n gobeithio gwneud raffl sy’n gysylltiedig â ffitrwydd, yn lleol i’r Drenewydd. Os hoffai unrhyw un neu unrhyw fusnes rhoi gwobr, byddwn yn ddiolchgar iawn.”

Cadarnhaol

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ei bod am ddymuno pob lwc I Milly yn ei her marathon mawr.

“Mae cefnogaeth codwyr arian fel Milly yn ein galluogi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad claf y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff yn nhair sir Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.” Os hoffech chi gyfrannu at godwr arian Milly, ewch i https://uk.virginmoneygiving.com/fundraiser-display/showROFundraiserPage?userUrl=MillyJerman&pageUrl=1