Mae’r cyhoedd yn cael cyfle i ddweud be fyddan nhw yn hoffi ei wneud gyda throsffordd (flyover) yng Nghaernarfon sydd mewn cyflwr peryglus.

Cafodd y drosffordd ei chodi yn y 70au ond roedd cryn wrthwynebiad oherwydd bu’n rhaid chwalu 98 o adeiladau gan gynnwys tai, ysgol gynradd Y Gelli, llyfrgell a phafiliwn y dref i wneud lle iddi.

Cafodd y drosffordd – sy’n rhan o gefnffordd (trunk road) yr A487 rhwng Abergwaun a Bangor – ei chodi ar gost o tua £4miliwn.

Nawr, 40 mlynedd yn ddiweddarach mae sôn y bydd yn rhaid ei thynnu i lawr.

Un o’r prif resymau am hynny yw am ei bod yn beryglus gyda berynau (bearings) yn cyrydu (corrosion) a wyneb y ffordd wedi gwisgo ac angen eu archwilio a’u cynnal yn gyson.

Cyhoedd

Rheswm arall yw na fydd angen y ffordd pan fydd y ffordd osgoi newydd rhwng trofan Plas Menai a throfan y Goat, Llanwnda, yn agor rywbryd yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf, 2022, ar gost o £135m.

Gan na fydd y drosffordd bellach yn rhan o’r gefnffordd, mae Llywodraeth Cymru am drosglwyddo’r cyfrifoldeb o’i chynnal a’i chadw i Gyngor Gwynedd.

Dywed y Cyngor y bydda nhw unai yn ei thynnu i lawr – gyda’r Llywodraeth yn talu am y gost – neu yn ei chadw.

Ond cyn gwneud y penderfyniad, fe wnaethon nhw gynnal ymchwiliad cyhoeddus fis Medi i ofyn beth oedd barn y bobl a’u dymuniad nhw.

Mae’r cyngor yn awyddus i glywed barn y cyhoedd ac mae’n dal yn bosib rhoi barn arlein.

Dewisiadau

Mae’r Cyngor wedi cynnig pedwar dewis sef:

  • Cadw’r drosffordd presennol gyda Opsiwn 1a dim newid i’r drosffordd presennol
  • Opsiwn 1b – Gwneud defnydd gwahanol o’r drosffordd presennol er enghraifft pont werdd ar gyfer defnydd cerdded, beicio a phlannu â choed a llwyni er budd bywyd gwyllt a phobl.
  • Diddymu’r drosffordd gyda Opsiwn 2a – tynnu’r drosffordd i lawr ond cadw’r dyluniad presennol ar gyfer y cylchfan gan gynnwys dylunio lleoliadau parcio ychwanegol ar gyfer ceir a bysys.
  • Opsiwn 2b – Tynnu’r drosffordd i lawr a creu cylchfan newydd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael wrth fynd arlein.

Mewn ymateb i bost ar gyfrif Facebook y Cynghorydd Tref Cai Larsen yn rhoi sylw i’r ymgynghoriad, dywedodd Mark Georgenson yr hoffai ef weld “llwybr yn mynd ar hyd bob ochor (i’r bont bresennol) yn syniad gan fod pobol yn cerddad ffordd yna.”

A dywedodd Gwyndaf Jones: “Be am ddefnyddio’r tir i adeiladu tai, dyna be oedd yna cent. Dylia na fod pumed dewis i bobol rhoi syniada gwell i sylw.”

Amserlen

Y camau nesaf nawr fydd Cyngor Gwynedd yn adolygu adborth y cyhoedd.

Wedyn bydd y Cyngor yn cytuno ar yr opsiwn a ffafrir ac yn cytuno cyllid ac amserlenni gyda Llywodraeth Cymru.

Bydd hynny yn arwain at ddatblygu’r dyluniad manwl o’r opsiwn a ffafrir ac ymgysylltiad cyhoeddus pellach.

Yr amserlyn fydd datblygu’r opsiwn a ffafrir rhwng 2022-2024 ac o 2024 ymlaen – dechrau ar y gwaith adeiladu.

Fodd bynnag, ni all unrhyw waith adeiladu ddechrau nes bod ffordd osgoi Caernarfon wedi’i chwblhau.

Os hoffech wybod mwy, ewch at: https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Dogfennau-Cyngor/Dewud-eich-dweud/Ffordd-Liniaru-Drosffordd-Caernarfon-Terfynol.pdf