Dywed Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys ei fod yn “bryderus” ynglŷn â phlismona y pás Covid newydd a allai ddod i rym ganol Hydref.

Rhaid i blismyn roi blaenoriaeth i droseddau difrifol, meddai Dafydd Llywelyn wrth BBC Cymru Fyw, yn hytrach na gwirio a yw pás Covid yn un ffug ai peidio.

Bydd pleidlais ar y pás yn y Senedd ddydd Mawrth ac os yw’r cynnig yn cael sêl bendith bydd yn dod i rym ar 11 Hydref.

Dywed Llywodraeth Cymru y gallai cyflwyno’r pás sicrhau fod busnesau yn aros ar agor pan fo nifer yr achosion yn uchel.

Fe fyddai pobl yng Nghymru angen pás Covid i fynd i glybiau nos a digwyddiadau mwy.

Byddai’r pás yn dangos fod person wedi cael ei frechu ddwywaith neu wedi cael prawf negyddol o fewn y 48 awr ddiwethaf.

Ffugio

Dywed Mr Llywelyn y byddai plismyn yn rhoi blaenoriaeth i ddigwyddiadau “sy’n debygol o greu y niwed mwyaf i gymuned” ac y byddent ond yn ymyrryd ag achosion cysylltiedig â phás Covid petai “torcyfraith difrifol”.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn gwneud ffugio canlyniad prawf Covid unffordd er mwyn cael pás Covid yn drosedd.

Ar y dechrau, dywed Mr Llywelyn, bod angen i reolwyr digwyddiadau ac awdurdodau lleol ddelio gyda’r rhai sy’n torri’r gyfraith er mwyn osgoi “gwaith ychwanegol” i’r heddlu.

Mae’n annog y cyhoedd i ufuddhau i’r rheolau newydd ac yn dweud nad yw’n disgwyl i nifer fawr o bobl fynd yn groes i unrhyw ddeddfwriaeth bosib.

Bydd unrhyw un sydd dros 16 ac sydd wedi cael ei frechu’n llawn yng Nghymru neu Loegr neu sydd wedi cael prawf Covid negyddol yn ystod y 48 awr ddiwethaf yn gymwys i gael pás.

Cofrestru

Mae’r pás ar gael drwy wefan y GIG ac nid drwy’r app yng Nghymru.

Rhaid mynd drwy sawl cam i gofrestru, gan gynnwys dangos llun o’ch cerdyn adnabod.

Unwaith y byddwch wedi gwneud hyn mae modd cael pás drwy ffôn neu gyfrifiadur.

Os bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei phasio ddydd Mawrth bydd pás yn orfodol i unrhyw un dros 18 sydd am fynd i:

  • Glybiau Nos;
  • Digwyddiad sefyll tu mewn ar gyfer mwy na 500 o bobl;
  • Digwyddiad sefyll tu allan ar gyfer mwy na 4,000 o bobl;
  • Unrhyw ddigwyddiad sy’n cynnwys dros 10,000 o bobl, gan gynnwys digwyddiadau chwaraeon.

Uchel

Mae rhai lleoedd eisoes yn gorchymyn pás Covid, gan gynnwys gwyliau a digwyddiadau cerddorol.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae’r pás yn un o nifer o fesurau all atal lledaeniad wrth i ni gymysgu yn fwy rhydd ymhlith ein gilydd.

“Rhaid cydbwyso’r dystiolaeth sydd ar gael yn erbyn anghenion cymdeithasol ac economaidd y wlad ac mae pás Covid yn un ffordd o gadw busnesau ar agor pan fo cyfradd achosion o’r haint yn uchel.”