Mae plaid UKIP wedi addo cynnal refferendwm er mwyn diddymu’r Senedd petaen nhw’n dod i rym ar ôl yr etholiad ym mis Mai.
Fel rhan o’u maniffesto, maen nhw hefyd yn ymrwymo i gael gwared ar fesurau sy’n helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac am adfer yr economi yng Nghymru.
Enillodd y blaid saith sedd yn yr etholiad diwethaf, ond dim ond Neil Hamilton, arweinydd y grŵp, sydd dal yn cynrychioli’r blaid.
Bydd y maniffesto yn cael ei lansio ar Facebook fore heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 13).
Mae UKIP yn dweud y bydden nhw’n cynnal refferendwm ar ddiddymu’r Senedd “yn syth” o fewn tymor nesaf y Senedd.
Yn ei lle, byddai UKIP am weld aelodau yn cael eu hethol i fyrddau iechyd a datblygu ysgolion gramadeg ac ysgolion sy’n cael eu hariannu gan y llywodraeth fyddai’n “hunanreoli”.
Mae maniffesto UKIP yn addo cael gwared ar gynllun Llywodraeth Cymru i gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
Er nad yw mewnfudo wedi’i ddatganoli i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi addo helpu ffoaduriaid i ddod yn rhan o’r gymuned a chael mynediad at wasanaethau iechyd.
Yn ogystal, mae’r blaid yn ymrwymo i stopio ymchwiliad Llywodraeth Cymru i gerfluniau ac enwau strydoedd, ymchwiliad sydd wedi darganfod fod 209 o strydoedd, adeiladu, lluniau, a chofebau yn coffáu pobol oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â chaethwasiaeth i’w gweld yng Nghymru.
Wrth edrych ar yr economi, mae UKIP yn dweud y bydden nhw’n rhewi cyfraddau busnes am 12 mis, a chreu cronfa adnewyddu gwerth £100m ar gyfer y diwydiant twristiaeth.
Mae rhai o’u polisïau eraill yn cynnwys:
- Cael gwared ar ddeddfau sy’n gorfodi cynghorau lleol i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg.
- Diddymu hawliau dinasyddion tramor i bleidleisio.
- Caniatáu i rieni ddweud nad yw eu plant am fynychu gwersi Cymraeg ar ôl iddyn nhw droi’n 14 oed.
- Cael gwared ar y ddeddf sy’n gwahardd rhieni rhag taro eu plant.
“Bargen wych i wleidyddion, ond un wael i Gymru”
“Fe wnaeth y Cynulliad Cymreig, nawr y Senedd, addo cymaint i bobol Cymru,” meddai Dr Felix Aubel, ymgeisydd UKIP yn y gogledd.
“Ychydig iawn mae hi wedi’i gwneud, ac mae hi’n ceisio gwahanu Cymru oddi wrth y Deyrnas Unedig.
“Mae UKIP yn galw am ddiddymu’r Senedd, mae Cymru’n dymuno gweld dyfodol llwyddiannus tu hwnt i ddatganoli.”
‘Pobol, nid gwleidyddion, sy’n gwybod beth sydd orau’
“Mae UKIP yn credu mai pobol, nid gwleidyddion, sy’n gwybod beth sydd orau,” meddai Neil Hamilton, arweinydd y blaid yng Nghymru.
“Mae Cymru wedi dioddef ugain mlynedd o’r Cynulliad, y Senedd, ac mae Cymru’n mynd am yn ôl ym mhob ffordd sy’n bosib i’w mesur.
“Bu’n fargen wych i wleidyddion, ond yn un wael i Gymru.”