Mae maer dinas Minneapolis ym Minnesota lle cafodd dyn croenddu ei saethu’n farw gan yr heddlu yn dweud bod penaeth y ddinas wedi cael ei ddiswyddo yn dilyn y digwyddiad.

Yn ôl Mike Elliott, mae cyngor y ddinas hefyd wedi pleidleisio i roi’r ddinas yn nwylo ei swyddfa, gan gymryd rheoleth o adran yr heddlu.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pam fod Daunte Wright, dyn 20 oed, wedi cael ei saethu gan yr heddlu, ond fe ddigwyddodd ar ôl iddo fe gael ei stopio gan yr heddlu trafnidiaeth.

Daw’r digwyddiad yng nghanol achos llys y plismon sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio George Floyd.

Dywed Mike Elliott y dylai’r blismones oedd yn gyfrifol gael ei diswyddo, ac mae hi’n honni ei bod hi’n credu ei bod hi’n defnyddio gwn Taser ac nid dryll go iawn pan saethodd hi at Daunte Wright, ac mae ymchwiliad ar y gweill.

Lluniau camera corff

Yn ôl Tim Gannon, pennaeth yr heddlu, roedd y blismones wedi gwneud camgymeriad, ac mae e wedi cyhoeddi lluniau oddi ar gamera corff.

Mae’r lluniau’n dangos tri o blismyn yn amgylchynu car roedden nhw wedi ei stopio.

Wrth i un o’r plismyn geisio rhoi’r dyn mewn cyffion, roedd yna ffrwgwd ac mae plismones i’w chlywed yn gweiddi “Taser!” sawl gwaith cyn tanio.

Mae’r heddlu’n dweud mai “damwain drasig” arweiniodd at farwolaeth Daunte Wright.

Mae’r Arlywydd Joe Biden wedi cael gwybod y manylion yn llawn, ac mae e’n cydweithio â sawl awdurdod arall.