Mae tri bwrdd ardoll, gan gynnwys Hybu Cig Cymru, wedi cyhoeddi llythyr agored yn ymateb i ymgyrch Bathodyn Gwyrdd rhaglen deledu Blue Peter y BBC.

Daw hyn ar ôl i’r rhaglen ofyn i wylwyr ddod yn rhan o ‘fyddin werdd’ er mwyn mynd i’r afael ag allyriadau carbon a newid yn yr hinsawdd.

Ymhlith yr argymhellion i ennill Bathodyn Gwyrdd mae anogaeth i blant gymryd y ‘Supersize Plants Pledge’ a disodli prydau cig coch gyda phrydau “cyfeillgar i’r hinsawdd”.

Mae’r rhaglen yn honni bod lleihau faint o gig rydyn ni’n ei fwyta, yn enwedig cig eidion a chig oen, yn well i’r hinsawdd na lleihau faint rydyn ni’n teithio mewn car.

Ond mae hyn yn “anghywir, yn gamarweiniol ac yn seiliedig ar ddata sydd wedi ei hen ddiystyru” yn ôl Hybu Cig Cymru (HCC), Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), a Safon Cig yr Alban (QMS).

Maen nhw’n dweud bod neges Blue Peter yn “tanseilio cig coch sy’n cael ei gynhyrchu yn y Deyrnas Unedig i gwsmeriaid y dyfodol”.

“Cyfrifoldeb i gyfleu gwybodaeth ddi-duedd”

“Fel darlledwr cyhoeddus, mae gan y BBC gyfrifoldeb i gyfleu gwybodaeth ddi-duedd,” meddai’r llythyr.

“Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth gyfathrebu gyda phlant.

“Mae Blue Peter hefyd yn hyrwyddo’r Cyfrifiannell Carbon, offeryn gor-syml sy’n dyfynnu data byd-eang nad yw’n cynrychioli diwydiant cig coch y Deyrnas Unedig.

“Caiff y cyfaint uchaf o CO2 ei gynhyrchu gan y diwydiannau tanwydd ffosil, gyda ffermio da byw yn cyfrannu dim ond 6% o allyriadau CO2 y Deyrnas Unedig.

“O ystyried yr ystadegyn hwn, fyddai torri eich defnydd o gig unigol mewn gwirionedd ddim yn lleihau allyriadau CO2 cyffredinol y Deyrnas Unedig, bron mor sylweddol â newidiadau strwythurol yn y sectorau ynni a thrafnidiaeth megis annog teuluoedd i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”

“Cyfle i rannu’r negeseuon cadarnhaol gan y diwydiant cig coch”

Mae’r llythyr agored yn galw am “gyfle i rannu’r negeseuon cadarnhaol gan y diwydiant cig coch”.

“Mae rhannu gwybodaeth â phobol ifanc am y technegau a’r prosesau sydd ar waith i sicrhau nad yw ffermio yn y Deyrnas Unedig ar draul yr amgylchedd ehangach hefyd yn hanfodol i’w helpu i ffurfio eu barn a’u harferion bwyta eu hunain,” meddai.

“Lle da i ddechrau yw Farming Foodsteps, adnodd ar-lein a gafodd ei ddatblygu gan weithwyr proffesiynol yn benodol ar gyfer plant oed ysgol sy’n archwilio’r siwrnai cig coch sy’n cynnwys cynaliadwyedd a negeseuon iechyd.

“Rhaid rhannu’r straeon hyn, a gofynnwn i’r BBC a Blue Peter ailystyried eu negeseuon unochrog a rhoi cyfle i benaethiaid cyrff diwydiant cig coch y Deyrnas Unedig gwrdd â’r pennaeth rhaglenni plant i daflu goleuni ar y negeseuon positif.”

Y BBC yn gwadu gofyn i wylwyr Blue Peter roi’r gorau i fwyta cig

“Nid ydym yn gofyn i wylwyr Blue Peter roi’r gorau i fwyta cig,” meddai llefarydd ar ran y BBC wrth ymateb.

“Gwnaed hynny’n glir ar y sioe ac ar ein gwefan, sydd wedi’i diweddaru i adlewyrchu’r ffaith y gall prynu bwyd tymhorol neu gig lleol sy’n cael ei fwydo gan laswellt hefyd wneud gwahaniaeth i’r newid yn yr hinsawdd.

“Mae yna hefyd opsiynau addewid eraill i ddewis ohonynt i ennill bathodyn Gwyrdd fel diffodd goleuadau neu ddefnyddio poteli dŵr y gellir eu hail ddefnyddio.”

Datgelodd y BBC wrth golwg360 y bydd Blue Peter yn dangos ffilm gyda ffermwyr Cymru yn archwilio ffermio cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yr wythnos hon.