Ar ôl atal yr ymgyrchu dros y penwythnos, mae Llafur Cymru wedi cyhoeddi eu haddewid diweddaraf ar gyfer etholiadau’r Senedd, sef cynllun swyddi i roi hwb i’r Stryd Fawr.

Mae’r cynllun yn cynnwys sefydlu banciau cymunedol newydd.

Nod y cynllun, meddai’r blaid, yw rhoi “Canol y Dref yn Gyntaf” er mwyn sicrhau bod busnesau’n symud i ganol trefi ac i’r Stryd Fawr lle bo hynny’n bosibl.

Mae’n fwriad ganddyn nhw sefydlu rhwydwaith o fanciau cymunedol ar y Stryd Fawrh, yn ogystal â chanolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig, ysgolion a cholegau a chartrefi newydd yng nghanol trefi.

‘Mae ein Strydoedd Mawr wrth galon ein cymunedau’

Yn ôl Ken Skates, Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, mae adfywio’r Stryd Fawr yn hollbwysig er mwyn “symud Cymru yn ei blaen”.

“Mae ein Strydoedd Mawr wrth galon ein cymunedau a gallan nhw fod wrth galon ein cynlluniau i greu swyddi newydd,” meddai.

“Bydd Llywodraeth Lafur Cymru newydd yn defnyddio’r holl lifrau sydd gyda ni i’w defnyddio er mwyn symud Cymru yn ei blaen ac i adfywio ein Strydoedd Mawr.

“Bydd ein cynllun yn gweld Strydoedd Mawr yn dod yn ganolfannau i gymunedau unwaith eto.

“Byddwn ni’n cynnig mwy o gyfleoedd i bobol fyw a gweithio’n nes at eu Stryd Fawr, byddwn ni’n sicrhau bod trenau a bysus yn cysylltu â chanol trefi, a byddwn ni’n defnyddio pwerau newydd i adfywio adeiladau gweigion.

“Byddwn ni’n defnyddio Banc Datblygu Cymru a’n Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru newydd gwerth £500m i gefnogi busnesau bach a chanolig i ymsefydlu mewn lleoliadau Canol y Dref.

“Bydd Llafur Cymru’n creu ‘Canolfannau Ailddefnyddio a Thrwsio’ yng Nghanol y Dref ac yn cefnogi cynlluniau menter gymdeithasol newydd megis caffis trwsio a chynnal a chadw beiciau a chynlluniau ailgylchu beiciau.”

Colli banciau’r Stryd Fawr

Yn ôl Ken Skates, mae colli banciau’r Stryd Fawr yn newyddion drwg i gwsmeriaid a busnesau.

“Mae gormod o gymunedau Cymreig wedi colli banciau dros y blynyddoedd diwethaf, gyda nifer o Strydoedd Mawr heb yr un sefydliad ariannol,” meddai.

“Nid yn unig y mae hyn yn ddrwg i gwsmeriaid, ond mae’n ddrwg i fusnesau hefyd.

“Dyna pam y bydd Llafur Cymru’n creu Banc Cymunedol newydd i Gymru gan gefnogi canghennau newydd mewn trefi a Strydoedd Mawr ledled Cymru.”