Mae gwyddonwyr yn galw ar bobol “o bob cefndir” yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd sydd wedi cael eu heintio â Covid-19 yn ystod y pandemig i roi gwaed ar gyfer astudiaeth enetig.

Ond “er mwyn gwireddu potensial yr astudiaeth cymaint â phosibl, mae’n bwysig bod y gwirfoddolwyr hyn yn debyg o ran oedran, rhyw ac ethnigrwydd â’r bobol hynny a gafodd eu heffeithio yn ddifrifol ac a oedd yn yr ysbyty”, yn ôl y gwyddonwyr.

Bwriad Astudiaeth COVID-19 unigryw GenOMICC yw dadansoddi genynnau pobol sydd wedi cael y feirws er mwyn darganfod pam fod rhai pobol yn cael symptomau ysgafn neu ddim yn cael unrhyw symptomau o gwbl, tra bod eraill yn mynd yn sâl iawn.

Er mwyn cyflawni hyn, dywed gwyddonwyr fod angen 2,500 yn fwy o wirfoddolwyr arnyn nhw, a hynny ar frys.

Bydd modd i nyrs ymweld â gwirfoddolwyr yn eu cartrefi er mwyn iddyn nhw allu rhoi sampl.

“Ymunwch â’r prosiect”

“Un prif amcan sydd i’r astudiaeth hon – ein helpu i ddeall pam fod COVID-19 wedi effeithio ar wahanol grwpiau mewn gwahanol ffyrdd,” meddai Dr Matt Morgan, Ymgynghorydd Meddygaeth Gofal Dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Arweinydd Arbenigol ar gyfer Gofal Critigol yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

“Ledled y Deyrnas Unedig, mae nifer anghymesur o bobol sydd wedi’u derbyn i’r ysbyty yn ddynion yn ogystal â phobol o dras Asiaidd a Du – dyna pam fod angen i bobol o’r grwpiau hyn yn benodol ymuno â’r astudiaeth cyn gynted â phosibl.”

“Os ydych yn gymwys, cofrestrwch ac ymunwch â’r prosiect.

“Byddwch yn cyfrannu’n uniongyrchol at helpu i wella ein gwybodaeth am y feirws a darganfod ffyrdd newydd o’i guro.”

“Hanfodol”

“Mae’n hanfodol ein bod yn dysgu cymaint â phosibl am COVID-19 ac i wneud hynny mae angen i bobl wirfoddoli i gymryd rhan mewn ymchwil,” meddai Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Darparu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

“Trwy gyflwyno system trefnu apwyntiadau, mae Astudiaeth COVID-19 GenOMICC yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu at ymchwil a allai achub bywydau o’u cartrefi eu hunain.

“Gall y cyfraniadau hyn helpu i ddarparu’r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i roi’r canlyniad gorau posibl i bob claf.”