Mae athro cynradd o Sir Benfro wedi gwadu 30 cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar 11 o ddisgyblion oedd rhwng wyth a naw oed ar y pryd.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe fod James Oulton wedi “camddefnyddio ymddiriedaeth rhieni a staff” drwy ymosod yn rhywiol ar y plant rhwng 2012 a 2018.

Yn ôl y disgyblion, sydd nawr rhwng 11 ac 17 oed, fe wnaeth yr athro eu cyffwrdd yn rhywiol.

Dywedodd James Oulton, sy’n 34 oed ac yn dod o Hwlffordd, ei fod e wedi ymddwyn yn briodol.

Digwyddodd yr ymosodiadau honedig pan oedd James Oulton yn gweithio yn Ysgol Gatholig Mair Wiwlan yn Hwlffordd.

Dywedodd yr erlynydd Clare Wilks fod rhai o’r plant yn dweud iddo ymosod arnyn nhw yn ddyddiol, tra bod eraill yn dweud mai unwaith yn unig ddigwyddodd yr ymosodiadau yn eu herbyn.

Mae James Oulton yn credu bod llythyrau wedi cael eu gyrru gan Gyngor Sir Benfro at rieni yn eu hannog i wneud cwynion ffug, a bod cydgynllwynio wedi digwydd rhwng disgyblion, meddai’r erlynydd wrth y rheithgor.

Dywedodd y diffynnydd wrth y rheithgor ei fod yn teimlo mai “witchhunt” gan Heddlu Dyfed-Powys yw’r ymchwiliad.