Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod “Cymru ar ei hôl hi unwaith eto”, ar ôl i dafarnau Lloegr agor eu drysau wrth i Lywodraeth San Steffan lacio’r cyfyngiadau yno.

Does dim disgwyl i dafarnau Cymru agor eu drysau cyn Ebrill 26.

Mae CAMRA, y gymdeithas cwrw da, hefyd wedi beirniadu’r drefn yng Nghymru.

“Unwaith eto, mae Cymru y tu ôl i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig oherwydd bod Llafur yn mynnu chwarae gwleidyddiaeth, yn hytrach na dilyn y wyddoniaeth,” meddai Russell George, llefarydd economi’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Dydy hi ddim yn gwneud fawr o synnwyr, pan fod tafarnau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig wedi ailagor, fod Llafur yn mynnu eu bod nhw’n aros ar gau yma yng Nghymru.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi cyhoeddi map ffordd gofalus ond manwl yn amlinellu sut y bydden ni wedi ailagor tafarnau, yn ogystal â sectorau eraill yr economi, gan gynnwys campfeydd.

“Mae angen i Lafur stopio chwarae gwleidyddiaeth a thalu sylw i’n cynllun fel y gallwn ni adeiladu Cymru well.”

Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi cyfaddef ei fod e wedi ystyried ailagor tafarnau ar yr un pryd â Lloegr, ond fod rhaid dilyn y cyngor gwyddonol.