Mae Mwslimiaid wedi dechrau dod ynghyd – gan gadw pellter oddi wrth ei gilydd – ar ddechrau mis Ramadan.

Er bod y dathliadau ychydig yn wahanol i’r arfer, mae pobol wedi gallu dod ynghyd, yn wahanol i’r llynedd pan gafodd mosgiau eu cau o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19 ar ddechrau’r pandemig.

Ond mae achosion o’r feirws ar i fyny yn Indonesia, un o’r gwledydd sydd â’r boblogaeth Foslemaidd fwyaf yn y byd, ond mae brechlynnau yn cael eu rhoi ac mae’r llywodraeth wedi dechrau llacio’r cyfyngiadau.

Mae mosgiau wedi cael agor er mwyn cynnal gweddïau Ramadan ond mae cyfyngiadau llym yn eu lle, ac wrth i ganolfannau siopa a chaffis agor eu drysau eto, mae llenni’n cuddio bwyd o’r golwg wrth i bobol ymprydio.

Cafodd 317 o fosgiau yn y brifddinas Jakarta eu diheintio yn barod ar gyfer Ramadan, ac mae cyfleusterau golchi dwylo yn eu lle.

Ym Malaysia, mae cyfyngiadau wedi cael eu llacio fel bod modd gweddïo, yn wahanol i’r llynedd, ac mae bazaars ar agor er mwyn prynu bwyd, diodydd a dillad.

Mae trefniadau wedi cael eu gwneud hefyd i alluogi pobol i ddod â’u hymprydio i ben ar yr adegau priodol.

Coronafeirws

Mae achosion Covid-19 Malaysia wedi treblu – a mwy – ers mis Ionawr i fwy na 362,000, gyda mwy na 1,000 o achosion newydd yn ddyddiol ar hyn o bryd.

Mae mwy na 1.5m o achosion yn Indonesia, a mwy na 42,600 o farwolaethau ac fe fydd eu rhaglen frechu yn parhau trwy gydol Ramadan er bod Islam yn mynnu na ddylid rhoi unrhyw beth yn y corff rhwng toriad y wawr a’r machlud.

Mae clerigwyr yn dweud bod brechlynnau’n cael eu chwistrellu i mewn i’r cyhyrau ac nid i’r gwaed ac felly bod hynny’n dderbyniol yn ôl eu crefydd.

Yn India, mae Mwslimiaid yn cael eu hannog i ddilyn cyfyngiadau Covid-19 wrth i achosion barhau i gynyddu yn sgil torfeydd.

Mae cyrffiw mewn grym mewn sawl dinas yn atal pobol rhag mynd allan yn ystod y nos a dydy hi ddim yn glir eto a fydd pobol yn cael cwrdd ar gyfer gweddïau.

Mae Kashmir yn dal dan gyfyngiadau llym ac mae pecynnau Ramadan yn cael eu dosbarthu i bobol yno.