Mae elusennau Awyr Iach Cymru yn galw ar holl ymgeiswyr etholiadau’r Senedd i addo cefnogi Deddf Aer Glân, a’i chyflwyno o fewn can niwrnod wedi’r etholiad.
Dywed y grŵp, sy’n glymblaid o fudiadau ac elusennau sy’n cydweithio er mwyn ymgyrchu dros Gymru fwy gwyrdd ac iach, fod y wlad yng nghanol argyfwng hinsawdd ac argyfwng iechyd cyhoeddus.
Mae’n rhaid delio â’r mater ar frys, meddai’r grŵp.
A thrwy gael gwleidyddion i addo eu cefnogi, maen nhw’n gobeithio mynd i’r afael â llygredd aer ar draws Cymru, a chreu planed iachach i bawb.
Mae llygredd aer yng Nghymru yn effeithio ar iechyd pawb, ac yn achosi marwolaethau miloedd o bobol cyn eu hamser bob blwyddyn, meddai’r grŵp.
Yn ôl Awyr Iach Cymru mae pobol yn anadlu lefelau peryglus o lygredd ar eu ffordd i’r gwaith, i’r ysgol, ac yn eu cymunedau – lefelau sy’n anghyfreithlon dan gyfreithiau Sefydliad Iechyd y Byd.
Byddai Deddf Aer Glân yn achub bywydau, ac yn gwarchod cenedlaethau’r dyfodol, ychwanega’r elusennau.
Y llynedd, cafodd llygredd aer ei nodi fel rheswm marwolaeth am y tro cyntaf yn achos merch ifanc o dde-ddwyrain Llundain.
Mae papur gwyn ar y mater eisoes yn bwnc ymgynghoriad cyhoeddus, ac mae’r grŵp yn galw am ymateb sydyn wedi’r etholiad er mwyn cyhoeddi’r ddeddf.
“Bywydau pobol yn dibynnu ar hyn”
“Mae ansawdd yr aer rydym ni’n ei anadlu yn chwarae rhan sylweddol yn ein bywydau,” meddai Joseph Carter, cadeirydd Awyr Iach Cymru.
“Mae’n effeithio ar ein hiechyd yn y tymor hir, a gall anadlu aer o ansawdd gwael am amser hir arwain at gyflyrau ysgyfaint difrifol – gan gynnwys asthma, COPD, a mathau o ganser yr ysgyfaint.
“Yn ogystal, mae llygredd aer yn ddrwg i’r blaned – mae’n achosi allyriadau sy’n newid yr hinsawdd ac yn effeithio ar natur, fel sydd i’w weld drwy’r llifogydd yng Nghymru.
“Rhaid gweithredu er mwyn glanhau’r aer, a sicrhau bod pawb yn gallu byw bywyd iach a heini,” ychwanega.
“Mae’n hanfodol bod Aer Glân yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth newydd, waeth ar ba ffurf fydd honno. Gyda nifer o’r prif bleidiau yn cefnogi ein galwadau, mae’n rhaid i ymgeiswyr y Senedd o bob plaid weithredu nawr, a chytuno i gyflwyno’r Ddeddf Awyr Iach o fewn y can niwrnod cyntaf.
“Mae bywydau pobol yn dibynnu ar hyn.”