Mae cyn-was sifil yn rhybuddio y byddai atal ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn newid natur yr Undeb “yn sylfaenol”.

Roedd yr Athro Ciaran Martin yn un o’r rhai oedd wedi helpu i sefydlu Cytundeb Caeredin, oedd wedi arwain at refferendwm annibyniaeth 2014.

Ac mae’n dweud y byddai atal ail refferendwm pe bai mwyafrif o blaid annibyniaeth yn Holyrood yn golygu newid yn natur yr Undeb, o fod yn un ar sail cydsyniad i fod yn un “sy’n seiliedig ar rym y gyfraith”.

Ac yntau bellach yn Athro yn Ysgol y Gyfraith Blavatnik ym Mhrifysgol Rhydychen, mae e wedi ysgrifennu papur yn trafod materion cyfansoddiadaol refferendwm 2014 ac ail refferendwm arfaethedig yn y dyfodol.

“Safbwynt ffurfiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’n ymddangos, yw na fydd yna lwybr cyfreithlon na democrataidd er mwyn ennill annibyniaeth i’r Alban am nifer amhenodol o ddegawdau,” meddai wrth drafod ei bapur.

“Mae hyn waeth bynnag sut mae’r Alban am bleidleisio ym mis Mai, neu mewn unrhyw etholiad arall i ddilyn yn ystod y cyfnod amhenodol hwn.

“Fy mhrif ddadl yn y papur sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yw, pe bai digwyddiadau’n codi – naill ai’n ddiweddarach eleni neu mewn blynyddoedd i ddod – sy’n gwneud y safbwynt rhethregol hwn yn realiti gyfansoddiadol wirioneddol, yna byddai’r Undeb fel rydyn ni’n ei deall hi wedi newid yn sylfaenol.

“Mewn gwirionedd, byddai’n newd yr Undeb o fod yn un ar sail cydsyniad i fod yn un sy’n seiliedig ar rym y gyfraith.”

‘Nid o blaid nac yn erbyn annibyniaeth’

Mae’n dweud nad yw ei bapur yn cyflwyno dadleuon o blaid nac yn erbyn annibyniaeth na’r Undeb, ond ei fod yn trafod “sut mae’r Wladwriaeth Brydeinig am wynebu’r gwrthdaro posib rhwng pleidleisiau a chyfreithiau”.

Wrth drafod refferendwm 2014, mae’n dweud bod y ddwy ochr wedi cyflwyno dadleuol “anghredadwy”.

Dywedodd y garfan ‘Ie’ y byddai hawl awtomatig i undeb ariannol, meddai, tra bod y garfan ‘Na’ yn dadlau y byddai Alban annibynnol “yn unig a heb ffrindiau” yn y byd.

Mae’n dweud y byddai goblygiadau “enfawr” pe bai’r Alban yn mynd yn annibynnol, gan gynnwys rhyw fath o ffin â Lloegr a sefyllfa ariannol “heriol”.

Ond mae’n rhybuddio na all y rheiny o blaid yr Undeb “ailadrodd eu camgymeriad o 2014, mewn gwirionedd, wrth honni bod y fenter o greu gwladwriaeth Albanaidd lwyddiannus yn amhosib”, gan ddweud bod safbwynt o’r fath yn “warthus”.