Mae Boris Johnson yn dweud bod rhagor o achosion a marwolaethau Covid-19 yn “anochel” wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio.

Daw sylwadau prif weinidog Prydain wrth i’r Gwasanaeth Iechyd ddechrau gwahodd pobol 45-50 oed am frechlyn.

Mae’n rhybuddio pobol i barhau i ddilyn y canllawiau wrth i erddi tafarnau a siopau’r Stryd Fawr ailagor, gyda phobol yn heidio yno ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu llacio ddoe (dydd Llun, Ebrill 12).

Er bod brechlynnau wedi helpu, cyfyngiadau’r cyfnod clo sydd wedi gwneud “swmp o’r gwaith” wrth ostwng lefelau’r haint, meddai.

Mae pawb yn y categorïau blaenoriaeth fwyaf bellach wedi cael cynnig brechlyn yn Lloegr ond fe fydd y sylw nawr yn troi at lacio’r cyfyngiadau.

“Wrth i ni ddatgloi, y canlyniad anochel yw y byddwn ni’n gweld mwy o’r haint, ac yn drist iawn, byddwn ni’n gweld mwy o dderbyniadau i’r ysbyty a mwy o farwolaethau.

“Mae’n rhaid i bobol ddeall hynny.”

Addasu cynlluniau?

Serch hynny, mae Boris Johnson yn mynnu nad oes cynlluniau ar y gweill i addasu’r amserlen ar gyfer llacio’r cyfyngiadau.

Bydd y cyfyngiadau nesaf yn cael eu llacio ar Fai 17 ac yna ar Fehefin 21.

Ond mae’n atgoffa pobol fod rhaid parhau i “olchi dwylo, rhoi digon o le i bobol, a gwneud pethau yn yr awyr agored”.