Mae aelodau seneddol wedi bod yn talu teyrnged yn San Steffan i’r Fonesig Cheryl Gillan, cyn-Ysgrifennydd Cymru fu farw’n gynharach yn y mis.

Roedd hi’n 68 oed pan fu farw ar Ebrill 4 yn dilyn salwch hir.

Hi oedd Ysgrifennydd Cymru rhwng 2010 a 2012.

Ymhlith yr atgofion a gafodd eu rhannu roedd ei gwaith yn ymgyrchu yn erbyn cynllun rheilffordd HS2 a’i chefnogaeth i’w chydweithwyr ar hyd y blynyddoedd.

Dywedodd Syr Bernard Jekin, Aelod Seneddol Ceidwadol Harwich a Gogledd Essex, ei bod hi’n “gwybod sut i gael llawer mwy allan o enau tystion na’r mwyafrif o bobol oherwydd ei bod hi mor addfwyn a chwrtais hefyd”.

Dywedodd ei bod hi’n “hwyliog dros ben” ac yn “bencampwr menywod mewn gwleidyddiaeth”, gan awgrymu cyflwyno proses ddirprwyo fel gall aelodau seneddol anfon rhywun arall i fwrw pleidlais drostyn nhw pe baen nhw’n sâl – cynllun y byddai’n ei alw’n “Bleidlais Cheryl”.

Dywedodd Harriet Harman, Aelod Seneddol Llafur dros Camberwell a Peckham, ei bod hi’n “gwbl gynnes, ddim yn feirniadol, yn fywiog ac yn allblyg” a’i bod hi “am wneud i bawb ymlacio” yn ei chwmni.

Yn ôl Syr Graham Brady, cyn-Weinidog Ceidwadol, at Cheryl Gillan y byddai pobol yn troi mewn argyfwng.

“Roedd hi’n ddynes smart iawn a chanddi steil ac roedd hi yno bob amser i gynnig cefnogaeth a chyn gynted ag y byddai rhywbeth yn digwydd – ac fe gawson ni sawl argyfwng dros y blynyddoedd diwethaf – byddai rhoi caniad i’r Fonesig Cheryl yn tawelu fy nerfau ar unwaith a byddwn i’n gwybod y byddai popeth yn cael ei wneud gorau gallai e gael ei wneud.”