Mae’r blaid Reform UK wedi lansio eu hymgyrch etholiadol gan ddweud eu bod nhw am gadw Senedd Cymru, ond eu bod nhw eisiau newid y drefn bleidleisio.

Bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal ar Fai 6.

Dywed Reform UK – Plaid Brexit gynt – eu bod nhw am gyflwyno system gynrychiolaeth gyfrannol (Proportional representation).

Mae cynrychiolaeth gyfrannol yn nodweddu systemau etholiadol lle caiff adrannau mewn etholaeth eu hadlewyrchu’n gymesur yn y corff etholedig.

Mae’r blaid hefyd yn dweud eu bod nhw’n bwriadu mynd i’r afael â’r hyn maen nhw’n ystyried yn wastraff arian cyhoeddus.

Ymhlith eu polisïau maniffesto mae addewid i leihau nifer y cynghorau sir yng Nghymru a chael gwared ar drethi busnes drwy gyflwyno treth ar-lein.

Maen nhw hefyd yn addo na fyddan nhw’n cyflwyno rhagor o gyfnodau clo.

Mae Reform UK yn sefyll ym mhob un etholaeth yng Nghymru ac ym mhob rhanbarth.

“Diwygio’r Senedd”

“Ar y cychwyn un o’r pethau mawr rydym am wneud yw diwygio’r Senedd, a newid y ffordd rydym yn cael ein llywodraethau yma yng Nghymru, diwygio’r cynghorau hefyd,” meddai Nathan Gill, arweinydd y blaid yng Nghymru.

“Mae’r rhain yn bethau mae gwleidyddion wedi bod ofn eu gwneud a’u newid er eu bod wedi sôn am hyn.

“Rydym am fod yn rym sy’n caniatáu i hyn ddigwydd.”