Mae ffermwr o Gaerfyrddin wedi dweud ei fod yn teimlo fel pe bai’n rhan o arbrawf cymdeithasol, yn sgil cynlluniau Llywodraeth Cymru i newid polisi ffermio.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi pwysleisio ers tro y byddai newidiadau radical yn bygwth busnes ffermydd, yn ogystal â busnesau a swyddi eraill sy’n dibynnu ar ffermydd.

“Mae pryderon ymysg ffermwyr bod y polisi ‘taliadau nwyddau cyhoeddus’ sy’n rhan o Raglen Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn bygwth y diwydiant,” meddai Phil Jones, sy’n ffermio defaid yn Llanpumsaint, ac yn poeni am effaith polisïau sydd heb gael eu treialu ar y diwydiant.

“Rydw i’n teimlo fy mod i’n rhan o arbrawf cymdeithasol; fel pob ffarmwr arall yng Nghymru,” meddai Cadeirydd Sirol Undeb Amaethwyr Cymru ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

“Nid yw Llywodraeth Cymru yn gwybod beth fydd union effaith eu cynlluniau i roi gorau i’r rhaglen cymorth uniongyrchol a’i gyfnewid am daliadau nwyddau cyhoeddus, ond mae rhai academyddion wedi awgrymu y byddai’r polisi yn arwain at golled o 25% o ffermydd y Deyrnas Unedig.

“Nid oes yr un treial wedi’i gynnal.”

Yn Ffrainc, mae pryderon ynghylch newid i bolisïau amaeth, ac mae hynny wedi dechrau protestiadau gydag undeb amaeth Ffrainc a’r sefydliad Ffermwyr Ifanc yn dweud y “bydd nifer sylweddol o ffermwyr yn rhoi”r gorau iddi” o ganlyniad i ddiwygiadau’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae’r hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei gynllunio gangwaith mwy radical na’r hyn sy’n digwydd yn Ffrainc a’r Undeb Ewropeaidd, felly os yw ffermwyr Ffrainc yn poeni – dychmygwch sut rydym ni’n teimlo,” meddai Phil Jones.

Peryg na fydd ffermydd yn cynnig dim i gymunedau

Mae 80% o incwm ffermwyr Cymru, wedi Brexit, yn dibynnu ar gymorth CAP, ac ar gyfartaledd mae incwm ffermydd yn parhau yn is na chyfartaledd incwm teuluol y Deyrnas Unedig.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw ar y llywodraeth nesaf i gydnabod y dinistr y byddai creu mwy o rwystrau, a chynnig llai o gefnogaeth i ffermwyr sy’n ceisio cystadlu â gwledydd eraill, yn ei wneud i amaeth yng Nghymru.

“Mae yna gymaint o gyfleoedd yng Nghymru i ddatblygu’r hyn sydd gennnym ni’n barod fel ei fod yn gwneud ychydig mwy i’r amgylchedd,” meddai Phil Jones wedyn.

“Mae’n debyg y bydd rhaglen, sydd wedi ei chopïo ar sail yr hyn sy’n cael ei ddatblygu’n Lloegr, yn cynyddu costau a rheolau, ac yn lleihau effeithlonrwydd i’r pwynt lle nad ydi cefnogi busnesau eraill drwy ffermio defaid yn gwneud synnwyr i ffermydd.

“Mae yna beryg y bydd presenoldeb ffermydd yn ddim o gymharu â nawr, ac yn cynnig dim byd i’w cymunedau, yn gymdeithas nac yn ariannol.”