Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn dweud ei fod e wedi ysgrifennu at yr Archwilydd Cyffredinol yn gofyn am ymchwiliad i sylwadau cynghorydd sir er mwyn diogelu rhag y posibilrwydd o gamddefnyddio arian cyhoeddus at ddibenion gwleidyddol mewn awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru.

Yr wythnos diwethaf, bu’n rhaid i Rob Jones o’r Blaid Lafur, arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ymddiswyddo ar ôl i recordiad ddod i’r amlwg ohono’n gwneud sylwadau haerllug am Bethan Sayed, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru.

Caiff ei glywed yn cyfeirio ati fel “the cow that she is …” yn y recordiad.

Mae’r recordiad yn awgrymu’n glir hefyd y byddai’r llefarydd yn ffafrio dyrannu arian cyhoeddus ar sail teyrngarwch gwleidyddol cynghorwyr lleol.

Dywedodd y byddai’n llawer mwy parod i ystyried ceisiadau cynghorwyr Llafur ar gyllid i’w wardiau na cheisiadau tebyg gan gynghorwyr Plaid Cymru.

“Ffordd sinistr o wleidydda”

Yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 9), heriodd Adam Price Mark Drakeford i gefnogi’r ymchwiliad ac i gondemnio’n uniongyrchol y sylwadau a wnaed gan Rob Jones.

“Mae recordiad y Cynghorydd Rob Jones yn datgelu ffordd sinistr o wleidydda lle yn syfrdanol mae’n cyfeirio at ffafrio prosiectau a gefnogir gan Gynghorwyr Llafur am arian cyhoeddus,” meddai.

“Dylai buddiannau ein pobl a’n cymunedau yn gyffredinol bennu dyrannu arian cyhoeddus, nid buddiannau pleidiol cul ac awydd i setlo sgôr gwleidyddol.

“Byddai ceisio mantais bleidiol gul drwy gamddefnyddio penderfyniadau gwariant cyhoeddus yn gam-drin pŵer yn llwyr ac yn gwbl annerbyniol.

“Rwyf wedi ysgrifennu at yr Archwilydd Cyffredinol yn gofyn iddo nid yn unig ymchwilio i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Jones yn y recordiad, ond mae hefyd yn sicrhau bod gwiriadau cadarn ar waith i ddiogelu rhag y posibilrwydd o gamddefnyddio arian cyhoeddus at ddibenion gwleidyddol mewn awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru.

“A fyddech chi’n cefnogi ymchwiliad o’r fath?”

“Pwysig ein bod yn caniatáu i’r ymchwiliadau hynny i ddod i gasgliadau eu hunain”

“Mae’n bwysig bod ymchwiliadau’n cael eu cynnal, ac mae’n bwysig ein bod yn caniatáu i’r ymchwiliadau hynny i ddod i’w casgliadau eu hunain yn hytrach na gwleidyddion ar lawr y Senedd yn rhagweld y canlyniadau hynny a gofyn i eraill gytuno â’r casgliadau y maen nhw eisoes wedi dod iddynt,” meddai Mark Drakeford wrth ymateb.

“Does dim lle i misogyny mewn unrhyw ran o fywyd Cymreig, nac mewn unrhyw blaid wleidyddol.

“Dw i’n cofio bod Adam Price wedi galw am ymchwiliad mewn i misogyny ym Mhlaid Cymru ym Mehefin neu Orffennaf 2019, ond nid wyf wedi gallu ffeindio canlyniad yr ymchwiliad hwnnw – efallai nad wyf wedi edrych yn y llefydd cywir.

“Ond fel yr wyf yn siŵr ei fod o’n iawn i gynnal yr ymchwiliad hwnnw yn ei blaid ef, mae hi hefyd yn iawn fod y cyhuddiadau yn erbyn y Cynghorydd Jones hefyd yn cael eu hymchwilio.

“Ac yn sicr, bydd canlyniadau’r ymchwiliad hwnnw yn cael eu cyhoeddi i’r cyhoedd.”