Mae Llafur yr Alban wedi cefnu ar ymgeisydd ar gyfer etholiadau Holyrood yn sgil ei sylwadau am ail refferendwm annibyniaeth a phryderon na fyddai hi’n cydymffurfio â chwip y blaid.
Roedd disgwyl i Hollie Cameron frwydro am sedd Glasgow Kelvin.
Wrth siarad â’r Sunday National, dywedodd ei bod hi’n “parchu’r hawl” i gynnal refferendwm arall, ond ei hunig “ffrae” yw amseru’r refferendwm hwnnw.
Mae Anas Sarwar, arweinydd Llafur yr Alban, wedi gwrthwynebu ail refferendwm droeon ac mae’r blaid yn dweud y byddan nhw’n mynd ati i ddod o hyd i ymgeisydd newydd mewn da bryd ar gyfer yr etholiad.
Yn ystod y ras arweinyddol, dywedodd Monica Lennon ei bod yn bwysig nad oedd y blaid yn “gwrthod democratiaeth” pe bai mwyafrif o Aelodau Senedd yr Alban o blaid annibyniaeth.
Sylwadau Hollie Cameron
“Dw i yn gwybod fod gan Blaid Lafur yr Alban bolisi sy’n dweud bod yr hawl i gael refferendwm yn rhywbeth mae Plaid Lafur yr Alban yn ei barchu,” meddai Hollie Cameron yn y cyfweliad.
“Mae’n ymddangos mai’r unig ffrae yw’r amseru ac mae safbwyntiau gwahanol o fewn y Blaid Lafur.
“Mae rhai ohonom sydd yn credu mai pryd fydd y cyhoedd ei eisiau yw’r amser gorau, a phan fo’r etholwyr eisiau cael y refferendwm hwnnw.
“Mae rheiny sy’n dweud na allwn ni gael refferendwm wrth geisio ailadeiladu ein gwlad ar ôl Covid.
“I fi, dydy’r ddau beth ddim ar wahân – dw i’n credu y gallwn ni ystyried ein cyfansoddiad ac ailadeiladu ar ôl Covid os oes yna ewyllys yn wleidyddol i wneud hynny.”
Ymateb yr SNP
Wrth ymateb i’r newyddion, mae Kaukab Stewart, ymgeisydd yr SNP yn yr un etholaeth, yn dweud bod “Anas Sarwar wedi methu prawf cyntaf ei arweinyddiaeth drwy ei gwneud hi’n gwbl glir nad oes croeso yn ei blaid i unrhyw gefnogwr Llafur sy’n credu bod gan bobol yr Alban yr hawl yn ddemocrataidd i ddewis eu dyfodol eu hunain”.
“Mae hynny’n egluro pam fod pobol ledled yr Alban wedi cefnu ar Lafur yr Alban – all pleidleiswyr jyst ddim eu cymryd nhw o ddifri rhagor.
“Y bobol sy’n byw yma ddylai benderfynu pa fath o wlad ddylai’r Alban fod – nid Boris Johnson – a fydd pleidleiswyr jyst ddim yn derbyn agwedd wfftiol Llafur tuag at yr hawl ddemocrataidd honno.”