Bydd cam cyntaf o’r gwaith i greu Lôn Feics newydd sbon o Fethel i Gaernarfon yn cychwyn ddydd Llun nesaf (Chwefror 22), yn ôl y cynghorydd lleol, Siôn Jones.

Daw hynny wrth i’r gwaith ar y ffordd osgoi gyfagos rhwng Caernarfon a Bontnewydd barhau.

Y gobaith yw y bydd y llwybr yn annog mwy o bobol i deithio ar feic neu ar droed a gwella cysylltedd rhwng y pentref a’r dref gyfagos.

Dywed Siôn Jones mai dyma’r cam cadarnhaol cyntaf yn ei weledigaeth i ddatblygu rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio ym Methel yn y dyfodol.

“Mae o’n ffantastig!” 

“Mae Bethel yn le eithaf isolated mewn ffordd a does yna ddim ffordd saff o fynd i Gaernarfon neu Y Felinheli,” eglura Siôn Jones.

“Felly mae hyn yn rhoi rhywfaint o ddiogelwch i bobl i deithio mewn modd llesol i Gaernarfon.

“Mae yna lot o bobl yn gweithio yng Nghaernarfon,” meddai, “felly mae hyn yn mynd i fod yn ffordd ddiogel i gerdded, beicio neu redeg i’r gwaith – sydd yn gam enfawr i ni ym Methel.

“… Mae o’n ffantastig!”

Dywed fod y lôn feics yn ganlyniad dros saith mlynedd o drafodaethau, cyn iddynt sicrhau’r cyllid gan Lywodraeth Cymru i ymgymryd â’r gwaith llynedd.

Cafodd y tendr ei ryddhau dros y Nadolig, meddai, a daeth cadarnhad yr wythnos ddiwethaf mai cwmni S.J.S. Williams o  Edern ym Mhwllheli, sydd wedi derbyn y contract.

“Buddsoddiad o ran lles ac iechyd”

“Mae pob lôn bwrpasol i feicwyr neu gerddwyr yn wych o ran diogelwch y beicwyr, boed yn oedolyn neu blant ac yn sicr yn fuddsoddiad o ran lles ac iechyd,” meddai Morfudd Thomas, un o drigolion yr ardal.

“Gobeithio bydd pobol yn ei defnyddio i fynd i’w gwaith gan ei fod yn dilyn y lôn arferol a bu ddim rhaid iddynt fynd rownd y byd, fel petai a bu digon hawdd dewis ffordd hirach ar y Lôn Lâs yn ôl adref.”

Dywed fod angen addysgu’r cyhoedd ynglŷn â manteision beicio a’i hybu fel gweithgaredd ffasiynol.

“Rydym yn lwcus yn yr ardal o’r rhwydwaith lonydd beics a bod ein cynghorydd lleol wedi mynd ar ôl y lôn feics yma yn sgil y lôn osgoi Bontnewydd i Gaernarfon,” meddai, cyn ychwanegu:

“Gobeithio bydd modd ail agor yr hen reilffordd fel lôn beicio aml bwrpas i Bontrug a Chwm y Glo a bydd hyn wedyn yn cysylltu Bethel efo Lôn Las Peris a pwysicach fyth yn saff ac i’r plant gerdded neu feicio i Ysgol Brynrefail.”

“Cam cyntaf i allu datblygu Bethel”

Er bod yr ymateb lleol wedi bod yn gadarnhaol, dywed Siôn Jones mai dyma’r cam cyntaf yn ei weledigaeth i greu rhwydwaith o lwybrau tebyg yn yr ardal.

“Yn amlwg, mae yna lot fawr o bobol wedi cysylltu isio gweld ni’n datblygu’r ardal ymhellach,” meddai.

“Mae rhai eisiau gweld Bethel yn cysylltu hefo Llanrug a Bangor ac mae’r gwaith yna wedi cychwyn blynyddoedd yn ôl.

“Ond gobeithio bydd hyn yn gam cyntaf i allu datblygu Bethel ym mhellach yn y dyfodol o ran llwybrau beicio.”

Dywed fod cam cyntaf y gwaith, sy’n estyn o Fethel i Dyddyn Hen, yn debygol o gymryd oddeutu wyth wythnos i’w gwblhau, cyn cychwyn ar yr ail gam ac estyn y llwybr i dref Caernarfon.

Mae’r cynghorydd yn rhagdybio y bydd y cam cyntaf wedi’i gwblhau erbyn mis Ebrill ac y bydd yr ail gam wedi’i gwblhau erbyn yr haf.

Protestwyr yn y Bontnewydd heddiw (dydd Llun, Ebrill 30)

Ffordd osgoi Caernarfon a’r Bontnewydd: protest oherwydd oedi

Roedd disgwyl i’r gwaith ar y ffordd gychwyn yn 2016
Protestwyr yn y Bontnewydd heddiw (dydd Llun, Ebrill 30)

“Ie” i ffordd osgoi’r Bontnewydd… ond ffraeo rhwng y pleidiau

Cynghorwyr Llafur a Llais Gwynedd yn cyhuddo Plaid Cymru o gymryd y clod