Mae protest wedi’i chynnal yng Ngwynedd heddiw ynglŷn â’r oedi cyn cychwyn y gwaith adeiladu ar ffordd osgoi rhwng Caernarfon a’r Bontnewydd.

Roedd disgwyl i’r gwaith ar y ffordd chwe milltir gychwyn yn 2016, a’i gwblhau erbyn eleni, ond yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal fis Mehefin y llynedd, mae disgwyl o hyd i Lywodraeth Cymru benderfynu pryd fydd y gwaith yn cychwyn.

Ac er ei bod nhw wedi addo y bydd penderfyniad yn cael ei wneud erbyn “y Gwanwyn” eleni, mae trigolion lleol wedi mynegi eu rhwystredigaeth ynglŷn â’r oedi, gyda thua 40 o bobol yn bresennol mewn protest yn y Bontnewydd heddiw (dydd Llun, Ebrill 30).

“Rhwystredigaeth gyhoeddus”

Yn ôl yr Aelod Cynulliad lleol, Siân Gwenllian a’r Aelod Seneddol Hywel Williams, mae yna “rhwystredigaeth gyhoeddus” yn yr ardal am y “diffyg cynnydd a’r diffyg eglurder” o du Llywodraeth Cymru.

“Mae pobl yn dod i fyny atom bron bob tro yr ydym ni allan yng Nghaernarfon a’r pentrefi cyfagos, yn holi beth ar wyneb y ddaear sy’n dal yn ôl y ffordd osgoi a pham nad oes unrhyw ddatblygiad,” meddai’r ddau.

“Mae pobol yn rhwystredig iawn gyda’r oedi parhaus i’r cynllun. Roedd y gwaith i fod i ddechrau yn 2016 ac roedd y ffordd i fod yn barod eleni.

“Mae tagfeydd swnllyd a budr yn yr ardal yn dal yn broblem enfawr i bobl leol yn ddyddiol. Pam fod y Gweinidog yn oedi?”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym ni’n deall bod trigolion eisiau penderfyniad ar ffordd osgoi Caernarfon/Bontnewydd, ond mae’n hanfodol ac yn hollol gywir bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i’r holl dystiolaeth ynglŷn â’r hyn sy’n gynllun enfawr.

“Rydym ni’n ystyried yn fanwl y casgliadau a’r argymhellion sydd wedi’u cynnig gan adroddiad yr archwilydd, a’r nifer uchel o ohebiaeth o blaid ac yn erbyn y cynllun, fel rhan o’r broses gyfreithiol.

“Mae’n bwysig bod hyn i gyd yn cael eu hystyried, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i wneud penderfyniad yn y Gwanwyn.”