Dydy Prif Drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd ddim yn deall “diwylliant” yr Unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon, yn ôl arweinydd y DUP.
Mae Arlene Foster, arweinydd Plaid Ddemocrataidd yr Unoliaethwyr (DUP) o’r farn bod Michel Barnier yn “clywed neges gref iawn” gan Lywodraeth Gweriniaeth Iwerddon, tros Brexit.
Ac er gwaetha’ ymdrechion y DUP i esbonio safbwynt yr Unoliaethwyr ar y mater, mae ymateb y Prif Drafodwr yn “siomedig”, meddai.
Mi wnaeth y DUP sefyll o blaid Brexit yn ystod ymgyrch refferendwm 2016. Mae Gweriniaeth Iwerddon ar y llaw arall, yn gefnogol o’r Undeb Ewropeaidd ac yn aelod ohoni.
Lleisiau
Wrth i Michel Barnier ymweld â threfi ar bob ochr i’r ffin Wyddelig ar ddechrau’r wythnos, mae Arlene Foster yn pryderu y bydd eu safbwynt yn cael ei anwybyddu ymhellach.
“Dw i’n siomedig y bydd ef yn clywed lleisiau gwrth-Brexit,” meddai. “Ni fydd yn clywed unrhyw leisiau o blaid Brexit gan mai Aelodau Seneddol Sinn Fein fydd yn ei dywys.”