Mae Sajid Javid wedi cael ei benodi’n Ysgrifennydd Cartref newydd yn dilyn ymddiswyddiad Amber Rudd, meddai Downing Street.
Sajid Javid, 48 oed, yw’r Ysgrifennydd Cartref cyntaf o gefndir ethnig leiafrifol.
Fe gyhoeddodd Amber Rudd yn hwyr nos Sul ei bod yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cartref ar ôl bod dan bwysau yn sgil y “sgandal” Windrush a thargedau ynglŷn â mewnfudwyr anghyfreithlon.
Roedd hi wedi cyfaddef ei bod wedi camarwain Aelodau Seneddol yn “anfwriadol” ynglŷn â thargedau i estraddodi mewnfudwyr anghyfreithlon.
James Brokenshire sydd wedi cael ei benodi’n Ysgrifennydd Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn lle Sajid Javid. Mae cyn-Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon wedi dychwelyd i San Steffan yn ddiweddar ar ol cael triniaeth am ganser.
Yr Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol Penny Mordaunt fydd y Gweinidog dros Ferched a Chydraddoldebau, cyn- gyfrifoldebau Amber Rudd, cadarnhaodd Downing Street.
“Cyfrifoldeb llawn”
Fe ymddiswyddodd Amber Rudd, AS Hastings a Rye, oriau’n unig cyn yr oedd disgwyl iddi wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin am y targedau a mewnfudwyr anghyfreithlon, yn sgil pwysau arni am y modd roedd wedi delio gyda “sgandal” Windrush.
Yn ei llythyr at y Prif weinidog Theresa May, dywedodd ei bod yn cymryd “cyfrifoldeb llawn” am beidio bod yn ymwybodol o fodolaeth y targedau.
Hi yw’r pumed aelod o’r Cabinet i adael ei swydd yn dilyn yr etholiad cyffredinol brys y llynedd.
Windrush
Un o dasgau cyntaf Sajid Javid fydd ceisio tawelu’r dyfroedd yn sgil sgandal Windrush lle mae pobl o gefndir Caribïaidd wedi cael eu gwrthod rhag cael mynediad at fudd-daliadau a gofal iechyd, a’r bygythiad o gael eu hanfon o Brydain, er gwaetha’r ffaith eu bod wedi bod yn byw yn y Deyrnas Unedig ers degawdau.
Mae e wedi rhoi addewid i sicrhau bod y rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan yr helynt yn cael eu trin gyda “thegwch a pharch”.