Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod am fwrw ymlaen â chynlluniau i osod ffordd osgoi rhwng Caernarfon a’r Bontnewydd.

Ond mae’r newyddion wedi achosi tipyn o ffraeo ymysg cynghorwyr lleol ar y gwefannau cymdeithasol, gyda chynrychiolwyr Llafur a Llais Gwynedd yn cyhuddo Plaid Cymru o geisio “cymryd y clod” yn dilyn protest ddiweddar.

Roedd disgwyl i’r gwaith ar y ffordd chwe milltir gychwyn yn 2016, a’i gwblhau erbyn eleni; a bu protestio yn yr ardal tros yr oedi mor ddiweddar â mis yn ôl. Aelodau Plaid Cymru, yn bennaf, oedd yn gyfrifol am y brotest honno.

Bellach mae disgwyl i’r gwaith o adeiladu ddechrau ym mis Tachwedd – wedi i gontractau gael eu dyfarnu – ac i’r prosiect gael ei gwblhau yn 2021.

Mae disgwyl i’r ffordd newydd arwain at ostyngiad 72% yn nifer y cerbydau sy’n teithio trwy’r Bontnewydd, a gostyngiad o 33% yng Nghaernarfon.

Ffraeo

Sion Jones, cynghorydd Llafur ardal Bethel ger Caernarfon, oedd un o’r cyntaf heddiw i fynnu mai “nad o ganlyniad i brotest” y daeth y penderfyniad gan lywodraeth Llafur Bae Caerdydd (gweler isod).

Yn y drafodaeth sy’n dilyn, mae Aeron M Jones, cynghorydd Llais Gwynedd, yn dweud ei fod yntau wedi bod yn rhan o’r trafodaethau ac yn ymwybodol o’r canlyniad – “ond ddim yn cael dweud” cyn heddiw.

https://www.facebook.com/sionwjones/posts/10155832790724790

 

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru tros Ddwyfor-Meirionnydd, Liz Saville Roberts, yn talu teyrnged ar Facebook i waith ymgyrchu Aelod Cynulliad Arfon, Sian Gwenllian, ac Aelod Seneddol yr etholaeth, Hywel Williams, wrth bwyso am y ffordd newydd:

 

Newyddion da – Diolch i waith ymgyrchu di-flino Plaid Cymru Arfon, Siân Gwenllian AC/AM a Hywel Williams AS/MP a pobl…

Posted by Liz Saville Roberts AS/MP on Thursday, 24 May 2018

 

“Llai o hollti”

“Canlyniad hyn bydd llai o hollti cymunedau a chyfleusterau, a gwell diogelwch, ansawdd aer ac ansawdd bywyd yn yr aneddiadau ar hyd y ffordd hon,” meddai Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wrth wneud y cyhoeddiad heddiw (fore Iau, Mai 24).

“Bydd cael gwared ar draffig… yn gyfle hefyd i annog teithio llesol o fewn ac o gwmpas Caernarfon a’r Bontnewydd drwy eu cysylltu â’r cymunedau cyfagos.”

Bydd y ffordd yn 9.7km o hyd, ac mi fydd tair rhan iddi gyda chylchfannau newydd ger gwesty Meifod ger Bontnewydd, ac wrth stad ddiwydiannol Cibyn ar gyrion Caernarfon.