Mae cwpwl o Loegr wedi eu cael yn euog o lofruddio au pair o Ffrainc oherwydd eu hobsesiwn gyda chyn-aelod o’r grŵp pop, Boyzone.

Mae Sabrina Kouider, 35 oed, yn gyn-gariad i Mark Walton a oedd yn aelod o un o grwpiau pop mwyaf y 1990au. Roedd hi a’i phartner newydd, Ouissem Medouni, 40 oed, wedi cyhuddo gofalwraig eu au pair Sophie Lionnet, 21, o gydweitho â’r canwr y tu ôl i’w cefnau.

Fe glywodd y llys fod y pâr wedi achosi dioddefaint ac wedi llwgu’r ferch swil o Ffrainc yn y misoedd yn arwain at ei marwolaeth fis Medi y llynedd.

Ar ôl ei lladd yn y bath ar Fedi 14, yn eu cartref ger Wimbledon, fe geisiodd y ddau losgi ei chorff ar goelcerth yn yr ardd. Ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw, fe geisiodd Ouissem Medouni ddweud mai gweddillion dafad oedd ar y goelcerth.

Fe ddywedodd Sabrina Kouider wrth yr heddlu hefyd fod Sophie Lionnet wedi rhedeg i ffwrdd gyda Mark Walton, cyn cyfaddef ei bod hi a’i phartner wedi cael gwared â’r corff.

Roedd y ddau yn dal i wadu’r llofruddiaeth yn y llys, ac yn rhoi’r bai ar ei gilydd.

“Trosedd afiach

Yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron, dim ond Sabrina Kouider a Quissem Medouni sy’n gwybod sut y bu Sophie Lionnet farw, a bod ei marw “ddim yn ddamwain”.

“Roedd y ddau yn rhan [o’r llofruddiaeth], ac wedi meddwl am gynllun i gael gwared ar ei chorff a cheisio dianc rhag y cyfrifoldeb am y drosedd afiach hon y mae’r ddau wedi’u canfod yn euog ohoni.”

Mae disgwyl i’r ddau gael eu dedfrydu yn yr Old Bailey ar Fehefin 26.