Dywed arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ei fod yn edrych ymlaen at weld ‘annibyniaeth ar y papur pleidleisio’ yn etholiad y senedd eleni.

Roedd yn ymateb i benderfyniad cynhadledd arbennig ddoe (dydd Sadwrn 13 Chwefror) i gadarnhau ymrwymiad gan Blaid Cymru, os bydd yn ffurfio llywodraeth, i gynnal refferendwm ar annibyniaeth yn ei thymor cyntaf.

Yn ôl Adam Price, mae “mwy o mwy o bobl” yn cefnogi annibyniaeth – ac yn cymharu â’r hyn oedd yn yr Alban 10 mlynedd yn ôl.

“Gyda’r gefnogaeth i’n cred y dylai Cymru benderfynu ar ei dyfodol cyfansoddiadol erbyn canol y ddegawd, mae gennym fap clir ar gyfer cenedl rydd a theg,” meddai.

“Dydyn ni ddim am allu rhoi Cymru ar well llwybr, ar well trywydd, heb annibyniaeth.

“Mae lefel y gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru bellach lle’r oedd hi yn yr Alban 10 mlynedd yn ôl.

“Ychydig flynyddoedd wedyn, daeth yr Alban o fewn cyrraedd i bleidleisio Ie yn y refferendwm annibyniaeth.

“Cafodd hanes ei wneud ddoe. Am y tro cyntaf, bydd annibyniaeth a’i hamserlen ar y papur pleidleisio mewn Etholiad Cyffredinol yng Nghymru, gan adlewyrchu’r hyder cynyddol yn ein gallu i redeg ein materion ein hunain.

“Yn y cyfnod ansicr hwn, yr unig sicrwydd yw y gallwn wneud llawer gwell na’r status quo – normal newydd sydd yno i’w ennill yn y dadeni a ddaw gyda’r gwanwyn.”

Y peth olaf sydd ar Gymru ei eisiau ydi refferendwm annibyniaeth

Huw Prys Jones

‘Cytuno a phenderfynu ar bwerau ychwanegol ydi’r allwedd i fwy o annibyniaeth i Gymru’, medd Huw Prys Jones