Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl cyfres o ymosodiadau anweddus mewn parc yn Abertawe fore dydd Gwener.

Dywed yr heddlu i’r ymosodiadau ddigwydd rhwng 8.00 ac 13.00 fore dydd Gwener ym Mharc Singleton ac o’i amgylch, a bod dyn lleol 27 oed wedi cael ei arestio a’i gymryd i’r ddalfa heddiw.

Meddai’r Ditectif Arolygydd Peter Collins: “Rydym yn ddiolchgarwch am y gefnogaeth a gawsom gan y gymuned leol hyd yma a dw i’n apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth ei rhannu â ni.”

Cafodd dyn 24 oed ei arestio ddydd Gwener, ond cafodd ei ryddhau heb i unrhyw gamau gael eu cymryd.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un a allai fod â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101 gan nodi cyfeirnod 2100050725.