Mae cyfanswm y bobl sydd wedi cael eu brechu ledled Prydain rhag y coronafeirws bellach wedi cyrraedd 15 miliwn.
Mae pawb dros 70 oed yng Nghymru a Lloegr eisoes wedi cael cynnig brechiad – targed a oedd wedi cael ei roi i’r Deyrnas Unedig gyfan ei gyrraedd erbyn yfory.
Yn ôl ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae cyfanswm o 771,651 o frechiadau cyntaf wedi cael eu rhoi, cynnydd o 22,206 ar y diwrnod cynt.
Mae 89.3% o bobl dros 80 yng Nghymru wedi derbyn eu brechiad cyntaf, 89.9% o bobl 75-9 ac 88.3% o’r rhai 70-74 oed. Yn yr un modd, mae 81.4% o drigolion cartrefi gofal ac 84.3% o’r staff wedi derbyn eu brechiad cyntaf.
Rhybudd am ysgolion
Yn y cyfamser, gydag ysgolion yng Nghymru’n ailagor i’r plant lleiaf wythnos i yfory, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn rhybuddio y bydd modd eu cau’n ôl ar fyrder os bydd raid.
Dywed fod Cymru mewn sefyllfa i adael plant yn ôl i’r ysgol o ganlyniad i gyfnod clo Cymru ychydig cyn y Nadolig.
Ar yr un pryd, byddai ymddangosiad straen newydd o’r Covid-19 yn ddigon i’w cau unwaith eto, meddai.
“Y cyngor gan ein prif swyddog meddygol a’n gwyddonwyr yw y dylech, yn y camau cynnar hyn, gymryd mesurau y gallwch eu gwrthdroi yn gyflym pe bai angen,” meddai.
“Pe bai cael plant 3 i 7 oed yn ôl yn yr ysgol yn arwain at ganlyniadau anfwriadol, yna wrth gwrs, fe fydden ni’n gallu newid pethau’n ôl.”
‘Rhy gynnar i lacio cyfyngiadau’
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, mae angen lleihad pellach mewn achosion Covid-19 cyn codi gwaharddiadau’r cyfnod clo presennol.
“Nawr yw’r amser i sicrhau ein bod wedi gwneud cynnydd cadarn ac osgoi’r posibilrwydd o drydydd neu bedwaredd ton, a fyddai’n drychinebus o ran yr economi yn ogystal ag iechyd y cyhoedd,” meddai.
“Oherwydd mae’r cylch ‘stop go’ o gyfnod clo, wedyn llacio, wedyn cloi eto, wedi arwain at ansicrwydd mawr yn economaidd ac fe ddylen ni osgoi hynny ar bob cyfrif.
“Felly gadewch inni yrru lefel yr achosion i lawr ymhellach fyth.”