Mae pleidiau gwleidyddol sy’n cefnogi annibyniaeth i Catalwnia wedi cryfhau eu rheolaeth ar y senedd yno trwy ennill pedair sedd ychwanegol yn yr etholiad ddoe.

Er mai plaid sosialaidd sy’n cefnogi undod Sbaen, gyda 33 o seddau, yw’r blaid unigol gryfaf, mae gan y tair plaid genedlaetholgar gyfanswm o 74 o seddau rhyngyddyn nhw.

Mae hyn yn cymharu â’r 70 o seddau y gwnaethon nhw eu hennill yn 2017, ac yn golygu mwyafrif clir o’r 135 o seddau’r Generalitat yn Barcelona.

Mae dwy o’r pleidiau mwy eithafol – ar y naill ochr a’r llall – hefyd wedi ennill tir yn yr etholiad.

Am y tro cyntaf, mae’r blaid unoliaethol asgell dde Vox wedi ennill seddau yn y senedd, gydag 11 o aelodau. Hefyd mae’r blaid genedlaetholgar asgell chwith CUP wedi cynyddu ei chefnogaeth o bedair sedd i naw. Mae’n golygu y bydd y ddwy blaid genedlaetholgar angen ei chefnogaeth er mwyn cynnal eu mwyafrif.