Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi £650 miliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru i gefnogi pobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi eu taro gan y coronafeirws.

Mae’r cyllid ychwanegol gan y trysorlys yn dod â chyfanswm y cyllid o San Steffan i Gaerdydd ers dechrau’r y pandemig i £5.85 biliwn.

Oherwydd yr amgylchiadau eithriadol ac mewn ymateb i alwadau am hyblygrwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cario unrhyw arian na fydd yn cael ei wario erbyn mis Ebrill drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf.

‘Cefnogaeth angenrheidiol’

“Rydym ni yn Llywodraeth y DU wedi gweithio yn ddi-baid i ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol i bob rhan o’r DU, a bydd y cyhoeddiad heddiw yn ychwanegu £5.85 biliwn at y gefnogaeth honno i Gymru,” meddai Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart.

“Mae hynny yn ychwanegol i’r holl becynnau cymorth eraill gan Lywodraeth y DU gan gynnwys y cynllun ffyrlo, y Cynllun Bwyta Allan i Helpu a’r benthyciadau busnes eraill.

“Mae’n bwysig bod y cyllid hwn nawr yn cyrraedd busnesau ac unigolion ledled Cymru wrth i ni geisio ailadeiladu economi’r DU.”

Daw’r cyhoeddiad wedi i Simon Hart ymddiheuro fis Ionawr gyhoeddi’n anghywir y byddai Cymru yn derbyn  £227 miliwn ychwanegol.

‘Parhau i ddiogelu bywoliaethau yng Nghymru’

Erlurodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys Steve Barclay AS fod y Trysorlys wedi cydweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi “sicrwydd” cyn iddynt gwblhau eu cyllideb ar Chwefror 16.

“Rydym wedi ymrwymo i roi’r adnoddau a’r hyblygrwydd sydd eu hangen ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â coronafeirws a heddiw rydym yn rhoi hwb ychwanegol o £650m.

“Mae cynlluniau Trysorlys y DU fel ffyrlo, cefnogaeth i’r hunangyflogedig a benthyciadau busnes hefyd yn parhau i ddiogelu swyddi a bywoliaethau ledled Cymru.”