Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am ddau ddyn a wnaeth geisio dwyn ci ar Lwybr Arfordir y Mileniwm ger Bynea ar gyrion Llanelli.
Maen nhw wedi cyhoeddi llun e-fit o un o’r dynion ac yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un sy’n ei adnabod.
Roedd y ddau wedi ceisio dwyn y ci wrth i’w berchennog fynd ag ef am dro gerllaw gwarchodfa natur Bynea, ond llwyddodd i’w hatal a riportio’r digwyddiad i’r heddlu.
“Rydym yn gweithio’n galed iawn i ddal y dynion sy’n gyfrifol am geisio dwyn anifail anwes teuluol,” meddai’r Ditectif Arolygydd Llyr Williams. “Rydym yn sylweddoli’r effaith mae’r digwyddiad hwn wedi’i gael ar y gymuned, ac yn awyddus o gael eich cymorth.”
Daw’r ymchwiliad wrth i Heddlu Dyfed-Powys sefydlu tasglu i ymchwilio i adroddiadau o gynnydd diweddar ledled Prydain mewn achosion o ddwyn cwn a chwn bach.
Maen nhw’n apelio ar i unrhyw a all adnabod y llun yn yr e-fit gysylltu â nhw ar 101 gan nodi cyfeirnod DPP/0023/05/02/2021/01/C.