Mae hi’n ddiwrnod etholiad yn Catalwnia heddiw, lle mae pleidleiswyr yn ethol aelodau i’w senedd ddatganoledig.

Mae disgwyl brwydr agos wrth i’r ddwy brif blaid genedlaethol sydd mewn grym gael eu herio gan blaid sosialaidd o dan arweiniad cyn-weinidog iechyd Sbaen, Salvador Illa.

Parhau mae’r argyfwng gwleidyddol yno ar ôl i amryw o arweinwyr y mudiad cenedlaethol gael eu carcharu am herio gwaharddiadau Sbaen ar gynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 2017.

Fe fydd yr etholiad heddiw yn brawf ar boblogrwydd y mudiad cenedlaethol. Yn ogystal â dal gafael ar eu mwyafrif bregus yn y senedd yn Barcelona, gobaith y ddwy blaid genedlaethol yw ennill mwy na 50% o bleidlais boblogaidd Catalwnia am y tro cyntaf.

Mae’r etholiad yn cael ei gynnal o dan gyfyngiadau iechyd llym wrth i Sbaen ddioddef ymchwydd mewn achosion o’r coronafeirws ar ôl y Nadolig.