Mae bron i dri chwarter miliwn o weithwyr hunan-gyflogedig ledled Prydain yn gwbl segur yn ystod y cyfnod clo presennol, yn ôl ymchwil diweddar.

Mae’r nifer – tua un o bob saith o’r cyfanswm – tua 50% yn fwy nag yn y cyfnod clo cyntaf yng ngwanwyn y llynedd.

Dywed y grwp ymchwil Resolution Foundation fod gweithwyr hunan-gyflogedig wedi cael eu taro’n ddrwg.

Mae tua dau o bob pump gweithiwr hunan-gyflogedig wedi dioddef cwymp o 25% o leiaf y neu henillion, a chymorth ariannol y llywodraeth allan o gyrraedd nifer sylweddol ohonyn nhw.

“Mae tri o bob 10 yn methu â chael cymorth, er gwaethaf colli incwm,” meddai Hannah Slaughter o’r Resolution Foundation. “Dylai’r llywodraeth ymestyn y meini prawf i helpu’r rheini sy’n colli allan.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys fodd bynnag fod y ffigurau yn “gamarweiniol”.

“Dydyn nhw ddim yn ystyried elfen pa mor bwysig o incwm sy’n dod o hunan-gyflogaeth, na lefel incwm pobl. Mae’r ddau yn ffactorau pwysig wrth sicrhau bod arian y llywodraeth yn cael ei dargedu at y rhai sydd ei angen fwyaf.

“Er hynny, byddwn yn parhau i adolygu’n cynlluniau a byddwn yn cyhoeddi’r camau nesaf o gymorth economaidd yn y Gyllideb.”