Mae data swyddogol yn awgrymu bod un pigiad yn unig o frechlynnau gwrth-Covid yn rhoi 67% o amddiffyniad yn erbyn yr haint.
Yn ôl epidemiolegydd blaenllaw, mae’n ymddangos bod polisi’r Llywodraeth o ohirio rhoi’r ail bigiadau yn gweithio, a dylid gallu cychwyn llacio cyfyngiadau o fewn wythnosau.
Dywed yr Athro Tim Spector, o King’s College, Llundain, fod achosion Covid-19 wedi gostwng 80% ers cychwyn mis Ionawr, a 60% yn llai o bobl yn mynd i’r ysbyty. Mae’r gyfradd atgynhyrchu – y ffigur ‘R’ – hefyd wedi bod yn gyson o dan 1 dros yr wythnosau diwethaf.
Esboniodd fod un pigiad o’r rhoi 46% o amddiffyniad ar ôl pythefnos a 67% ar ôl tair wythnos.
“Mae’n dal yn gynnar ac rydym yn dal i ddadansoddi’r canlyniadau, ond mae’n edrych yn addawol iawn,” meddai. “Mae’n golygu ein bod ni mewn sefyllfa debyg i’r lle’r oedden ni ym mis Hydref, ac os yw’r tueddiadau presennol yn parhau, fe fyddwn ni’r lle’r oedden ni ym mis Mai neu fis Mehefin ymhen ychydig wythnosau.”
Dywedodd y byddai hyn yn golygu bod achosion symptomatig o’r feirws cyn lleied ag un o bob 500 o’r boblogaeth, ac yn ei farn ef dylid bod yn bosibl llacio rhai o’r cyfyngiadau bryd hynny.