Mae Donald Trump wedi osgoi cael ei gollfarnu’n ffurfiol gan Senedd America ar ddiwedd achos uchel-gyhuddo’r cyn-arlywydd.
Er bod mwyafrif o seneddwyr – 57 yn erbyn 43 – wedi pleidleisio dros gollfarnu Donald Trump, roedd yn fyr o’r mwyafrif o ddau draean sy’n angenrheidiol.
Gyda’r Senedd wedi ei hollti 50:50 rhwng y Gweriniaethwyr a’r Democratiaid, roedd y canlyniad yn golygu bod saith Gweriniaethwr wedi ochri gyda’r 50 o Ddemocratiaid i gollfarnu.
Roedd yr achos yn dilyn yr helyntion a’r anhrefn treisgar yn Washington DC wrth i gefnogwyr Donald Trump ymosod ar adeilad y Capitol pan oedd seneddwyr yn cyfarfod i gadarnhau ethol Joe Biden fel arlywydd. Sail yr uchel-gyhuddiad oedd mai Donald Trump ei hun oedd yn gyfrifol am yr helynt ar ôl annog ei gefnogwyr i “fight like hell” wrth eu hannerch y diwrnod hwnnw.
Mae’r achos wedi amlygu’r gafael sydd gan gefnogwyr Donald Trump ar y Blaid Weriniaethol o hyd, wrth i amryw o seneddwyr ei feirniadu’n hallt ond pleidleisio yn erbyn ei gollfarnu er hynny.
Yn eu plith roedd arweinydd Gweriniaethwyr y Senedd, Mitch McConnell, a ddywedodd fod Donald Trump yn “ymarferol ac yn foesol gyfrifol” am y gwrthryfel. Ar yr un pryd, roedd yn dadlau nad oedd modd ei gollfarnu oherwydd nad oedd yn arlywydd mwyach.
Mewn datganiad ychydig oriau ar ôl y ddedfryd, dywedodd yr Arlywydd Joe Biden fod gan bawb, yn enwedig arweinwyr y wlad ddyletswydd “i amddiffyn y gwirionedd a gorchfygu’r celwyddau”.
“Dyna sut mae dod â’r rhyfel chwerw yma i ben a iacháu enaid ein cenedl,” meddai. “Dyma’r dasg sydd o’n blaenau. Ac mae’n dasg sydd raid inni ei chyflawni gyda’n gilydd.”