Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, wedi cyflwyno cynnig seneddol mewn ymateb i ganslo’r Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae’r Cynnig yn galw ar Lywodraeth Prydain i ddarparu cefnogaeth ariannol i’r Eisteddfod, wrth iddynt wynebu heriau anferthol sgil y penderfyniad annatod diweddar.
Effaith pellgyrhaeddol
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, fod “colli Eisteddfod arall yn mynd i gael effaith pellgyrhaeddol arnom ni fel sefydliad” ac y bydd proses ymgynghori’n mynd rhagddi i gwtogi nifer y staff.
“Yn anffodus, ry’n ni’n wynebu blwyddyn arall hynod o heriol yn ein hanes,” meddai’r Prif Weithredwr.
“Ry’n ni wedi gorfod dechrau ar broses ymgynghori gyda staff gan fod rhaid i ni leihau’r tîm i hanner ei faint er mwyn gallu goroesi’r cyfnod nesaf.
Dywedodd bod rhannu’r newyddion yr wythnos hon wedi bod yn “dorcalonnus i bawb sy’n rhan o’r Eisteddfod.”
“Sicrhau parhad prifwyl diwylliant Cymru”
Mae’r cynnig a gyflwynir gan Ben Lake yn pwysleisio ei gydymdeimlad tuag at staff â threfnwyr yr Ŵyl.
Mae hefyd yn mynegi ei bryderon ynglŷn â’r heriau anferthol sy’n wynebu’r sefydliad at y dyfodol – ac yn gofyn i Lywodraeth Prydain i ymyrryd.
Mae’r Cynnig Seneddol fel a ganlyn.
“Bod y Tŷ hwn yn nodi gyda thristwch ohiriad anochel a synhwyrol Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Ngheredigion tan 2022 oherwydd pandemig Covid-19; yn mynegi pryder mawr am y sefyllfa ariannol hynod anodd y mae hyn yn ei hachosi i drefnwyr yr ŵyl ac i staff sydd bellach mewn perygl o gael eu diswyddo; yn gofyn i Lywodraeth y DU pa gymorth ariannol y gall ei ddarparu i helpu i gefnogi gŵyl ddiwylliannol fwyaf Cymru; yn cymeradwyo gwaith parhaus yr Eisteddfod AmGen am ddarparu ffyrdd amgen i bobl ledled Cymru ddathlu’r Eisteddfod yn ystod y pandemig; ac yn edrych ymlaen at weld pobl yn dod at ei gilydd yn bersonol ar gyfer Eisteddfod 2022.”
Mewn datganiad, dywedodd Ben Lake AS:
“Wrth reswm, bydd y penderfyniad i ohirio’r brifwyl unwaith eto eleni yn destun siom i drigolion ardal Tregaron ac i gymunedau ar draws Ceredigion sydd wedi gweithio mor galed i baratoi a chodi arian ar gyfer croesawu’r ŵyl genedlaethol i’n sir.
“Ond rwy’n siŵr y bydd pawb yn cytuno taw dyma’r penderfyniad synhwyrol i’w gymryd dan yr amgylchiadau.”
“Y gofid pennaf ar hyn o bryd yw effaith y penderfyniad hwn ar sefyllfa ariannol yr Eisteddfod Genedlaethol a’r sgil effaith posib ar y gweithlu profiadol.
“Mae fy nghynnig seneddol yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi cefnogaeth ariannol i’r sefydliad er mwyn sicrhau parhad prifwyl diwylliant Cymru, fel y gallwn edrych ymlaen yn hyderus tuag at Eisteddfod 2022.”