Stadiwm Dinas Caerdydd yn barod ar gyfer y gêm heno
*Ramsey a Bale yn sgorio i Gymru

*Gêm olaf Cymru yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2016

*Y tîm eisoes wedi sicrhau eu lle yn y bencampwriaeth yn Ffrainc y flwyddyn nesaf

*Chris Coleman wneud gwneud pedwar newid i’w dîm

21.55: Mae hi’n bownsio yma! Chwaraewyr Cymru’n cael eu cyflwyno i’r dorf fesul un, cyn dathlu yng nghanol cae gyda’r conffeti.

Fe ddown ni a lluniau, fideos ac ymateb i chi yn y man ar Golwg360.

21.42: Dyna ni, y gêm drosodd. Amser dathlu rŵan, ac mae ’na garped coch allan …

21.40: SGÔR TERFYNOL – CYMRU 2-0 ANDORRA

21.35: 2-0 I GYMRU! GÔL GAN GARETH BALE!

Ben Davies yn croesi’n isel i mewn i’r cwrt cosbi, Ramsey’n ei chyffwrdd ond Bale yno wedyn i ergydio o wyth llathen heibio i’r golwr. 87 munud wedi bod.

Simon Church hefyd wedi dod ymlaen fel eilydd i Gymru yn lle Jonathan Williams.

21.29: Cic rydd arall … Ashley Williams yn methu’r peniad yn gyfan gwbl, y bêl yn tasgu oddi ar y golwr, ac yna Vokes yn penio hi’n wan ac yn syth i mewn i’r llawr! Am gyfle!

Wedyn Lawrence yn tanio ergyd dda ond y golwr yn arbed hon hefyd. Deg munud i fynd, ac mae Andorra yn eilyddio Ivan Lorenzo am Marc Garcia.

21.21: Beth am sôn am Andorra am unwaith. Maen nhw’n mentro i hanner Cymru a bron yn cael y bêl i’r ymosodwr yn y cwrt cosbi, cyn i Ashley Williams ei chlirio hi.

Maen nhw wedyn yn eilyddio, gyda Josep Ayala yn dod ar yn yr amddiffyn yn lle Oscar Sonerjee.

Cyfle arall i Vokes munudau’n ddiweddarach. Mae o wedi cael sawl cyfle dros Gymru heno. A welwn ni Simon Church yn dod ymlaen yn ei le cyn y diwedd?

21.16: Y cyfleoedd yn dechrau pentyrru i Gymru rŵan, Ramsey yn cael dau gynnig o fewn ychydig funudau.

Dw i’n cael y teimlad y bydd Cymru’n cael gôl arall o leiaf. Maen nhw’n parhau i bwyso’n ddi-baid, ond hanner cyfleoedd ydi lot o beth maen nhw’n llwyddo eu creu.

21.10: Ramsey modfeddi i ffwrdd o ddyblu ei fantais gydag ergyd droed chwith heibio i’r postyn. Hen Wlad Fy Nhadau yn atseinio eto – sgroliwch lawr drwy’r blog byw i weld clip ohoni cyn y gêm.

21.05: Y cefnogwyr wedi canfod eu lleisiau eto ôl y gôl yna – ac fe allen nhw fod â rheswm arall i ddathlu.

Ar hyn o bryd mae hi’n gyfartal rhwng Gwlad Belg ac Israel, felly os ydi pethau yn aros fel hyn fe fydd Cymru’n ennill y grŵp.

Cic rydd i Gymru, a ’chydig o wthio rhwng y chwaraewyr.

21.00: GÔL I GYMRU! AARON RAMSEY!

Bale yn croesi hi mewn, Ashley Williams yn methu peniad hawdd ond Ramsey yno tu mewn i’r cwrt chwech ar gyfer yr ail gyfle. 1-0 i Gymru! 51 munud ar y cloc.

20.54: DECHRAU’R AIL HANNER

Ymosodwr Caerlŷr sydd ar fenthyg yn Blackburn, Tom Lawrence, yn dod ymlaen fel eilydd i Gymru ar yr egwyl, gan ennill ei gap cyntaf.

Edwards sydd i ffwrdd felly mae’n rhaid fod ganddo anaf.

20.50: Fawr o adloniant yn ystod yr egwyl heblaw am y ciciau o’r smotyn arferol i’r cefnogwyr. Rhaid eu bod nhw’n cadw’r tân gwyllt at y chwib olaf.

20.37: HANNER AMSER

Dwy gic gornel arall yn cael eu gwastraffu. Wedyn Bale yn tanio ergyd drosodd. Lot o amser ychwanegol ar ddiwedd yr hanner oherwydd yr anaf cynnar yna, ond Cymru methu manteisio.

20.30: Vokes yn methu peniad arall o ganol y cwrt cosbi. Tipyn o beli hir yn cael eu chwarae iddo fo ar hyn o bryd.

Jonny Williams wedyn yn taro ergyd sydd yn mynd allan am dafliad. Mae hi ’chydig yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i ni nesau at yr egwyl.

Wrth i mi ddweud hynny, Ramsey’n taro’r trawst gyda pheniad! Cymru’n cael pedair cic gornel allan o hynny … ac ar y pedwerydd cynnig, Ben Davies sy’n ei chrymanu fodfeddi dros y gôl!

20.24: Cic gornel i Gymru ar ôl gwaith da gan Bale, Joniesta a Vokes … ac ar ôl chwarae hi i Vaughan ar ymyl y cwrt cosbi, mae hwnnw’n tanio hi drosodd.

20.19: Cerdyn melyn cyntaf y gêm, ac mae David Vaughan yn llyfr y dyfarnwr.

Dave Edwards wedyn yn cael ei faglu reit ar ymyl y cwrt cosbi, ond y dyfarnwr ddim yn cytuno. Ond wedyn mae’n rhoi cic rydd i Gymru am drosedd ar Vokes. Chydig o gysondeb plîs! Cic rydd Bale yn mynd syth i lawr corn gwddf y golwr.

20.15: O! Bron yn gôl i’w rwyd ei hun gan Max Llovera! Ben Davies yn chwarae pêl hir i gwrt cosbi Andorra, a Llovera bron yn penio hi dros ei golwr, Ferran Pol, lwyddodd i gael blaen ei fysedd arni yn y diwedd.

Cymru yn rheoli’n llwyr, ac Andorra yn hapus i eistedd yn ôl, gyda dros hanner awr o chwarae wedi bod.

20.11: Y cefnogwyr yn canu “One Gary Speed”. Heb glywed honno’n atesinio am sbel, ond hynny am resymau dealladwy.

Roedd yna deimlad o’r blaen fod y gân i ryw raddau yn tanseilio Chris Coleman fel rheolwr. Mae’r amgylchiadau yn wahanol iawn bellach, wrth gwrs, a’r cefnogwyr yn gallu cofio a gwerthfawrogi cyfraniad Speed i Gymru heb deimlo bod hynny’n tynnu oddi wrth y tîm presennol.

20.05: Robson-Kanu yn edrych fel ei fod o’n cael ei eilyddio. Dave Edwards yn dod ymlaen yn ei le, mae’n debyg.

Yn gynharach fe gafodd Chris Gunter ergyd ar ei droed chwith o ymyl y cwrt cosbi, ond roedd hi’n ddigon hawdd i’r golwr ei arbed.

Dydi Gunter heb sgorio’r un gôl i Gymru mewn 63 cap, wyddoch chi – y chwaraewr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros y wlad heb rwydo unwaith.

Mi wnes i addo clip o Hen Wlad Fy Nhadau ar ddechrau’r gêm i chi do – wel, dyma fo:

20.00: Cic rydd Bale yn hedfan heibio i’r postyn agosaf, a cyfle i bawb ddal eu hanadl.

Allai ddim yn fy myw ddeall pam na chafodd Joniesta’r gic o’r smotyn yna. Chewch chi ddim trosedd mwy amlwg.

19.58: Jonathan Williams yn ennill cic rydd. Mae o wedi edrych yn ddigon bywiog yn y, wel, pum munud cyntaf o chwarae.

Wedyn ergyd Bale yn tanio ergyd wych, golwr yn arbed, Jonny Williams yn cael ei faglu yn y cwr cosbi ond dim ci o’r smotyn!

A rŵan cic rydd i Bale ar ymyl y cwrt! Mae popeth yn digwydd!

19.56: Y chwaraewr wedi bod ar y llawr ers dros pum munud bellach. Mae rheolwr Andorra Koldo Alvarez yn edrych yn bryderus.

Pawb yn codi rŵan wrth i Moreira gael ei gludo o’r cae gyda masg ocsigen ar ei wyneb, ac rydan ni nôl yn chwarae.

19.49: O na. Anaf eithaf cas yr olag yn fan hyn. James Chester a Victor Moreira sydd wedi taro pennau dw i’n meddwl, a Moreira yn edrych waethaf. Mae’r meddygon wedi dod i’r cae.

19.46: Y gic gyntaf, a ffwrdd a ni. “We’ve got our passports, we’re going to France” ydi cri y cefnogwyr. Gŵyr Harlech eto. Mae’r canu yn cadw’r blog yma’n brysur.

Ac mae gan Andorra gic gornel.

19.44: Wel mi roedd hwnna’n fyddarol. Mi gewch chi weld blas ohoni nes ymlaen ar Golwg360 gobeithio.

Yng nghanol yr holl sŵn – a chân Hal Robson-Kanu – mae ’na gêm o bêl-droed ar fin dechrau.

19.40: Amser anthemau, ac Andorra sydd gyntaf. Mae’n swnio’n debyg iawn i un Ffrainc!

Cymru i ddilyn rŵan …

19.36: Zombie Nation ….

19.26: Gŵyr Harlech rŵan yn atseinio o gyfeiriad y Canton. Mae’r cefnogwyr yn dechrau canfod eu sŵn.

Gyda llaw, dyma fainc Cymru – OF Williams, Ward, Taylor, Richards, Allen, King, Church, Ledley, Edwards, Collins, Lawrence, Henley.

Dim lle i Emyr Huws a Wes Burns eto felly.

19.23: Nid dim ond selebs y byd adloniant sydd yma chwaith. Dw i newydd weld yr Aelodau Cynulliad Simon Thomas, Keith Davies a Nick Ramsay yn ciwio am baned a byrgyr cyn y gêm. Y gwleidydda wedi’i roi i un ochr am noson mae’n debyg!

19.20: SFA wedi gorffen eu stint, y gerddoriaeth yn chwarae dros y system sain rŵan wrth i’r chwaraewyr gynhesu fyny. Mae hi’n dechrau llenwi, ond dal tipyn ar ôl tu allan i’r stadiwm.

Fe wnes i sôn bod enwogion o fri yma heno, ac fe gawson ni gip o Bryn Terfel y tu allan jyst rŵan. Tybed a fydd o ffansi ymuno yn y canu? (Ddim fo fydd yn canu’r anthem gyda llaw, ond Sophie Evans fel yr arfer).

19.00: Mae hi’n saith o’r gloch, does fawr neb yn y stadiwm eto – ond dyma’r Super Furry Animals allan beth bynnag i ddechrau’r parti cyn y gêm.

Mae Gruff Rhys yn gwisgo beth sy’n edrych yn debyg i bucket hat du. Oce ta.

18.55: Tîm Andorra i chi gyda llaw – Ferran Pol, San Nicolas, Sonejee, Llovera, Ildefons Lima, Rodrigues, Rubio, Vieira, Moreira, Lorenzo, Sanchez.

Ildefons Lima ydi eu capten nhw, ac mae o wedi sgorio tair gôl yn yr ymgyrch yma, pob un yn gic o’r smotyn.

18.42: Diddorol … edrych fel siâp 4-3-3, gyda Vokes yn arwain yr ymosod. Beth ydych chi’n meddwl?

18.38: Tîm Cymru – Hennessey, Gunter, Chester, A Williams, Davies, Vaughan, J Williams, Ramsey, Bale, Robson-Kanu, Vokes

18.18: Mae hi’n brysur iawn yn ’stafell y wasg heddiw – arwydd dw i’n meddwl o gymaint mae’r tîm bellach wedi dal dychymyg pobl y tu hwnt i Gymru bellach.

Mae Gareth Bale a’i statws fel chwaraewr drytaf y byd yn atyniad, wrth gwrs, ond mae’r ffaith bod Cymru a Gogledd Iwerddon (yn ogystal â Lloegr, fel yr arfer) wedi cyrraedd Ewro 2016 y tro yma yn golygu bod tipyn o edrych ymlaen at bawb yn ymweld â Ffrainc yn barod.


Savage yn stopio am lun
Rydan ni wedi gweld sawl cyn-chwaraewr Cymru y tu allan i’r stadiwm eisoes, nifer yn gweithio yn y cyfryngau bellach – gan gynnwys Robbie Savage, oedd tu allan yn tynnu lluniau gyda chefnogwyr yn gynharach.

18.11: Beth sydd mor bwysig am y gêm heno yn erbyn Andorra felly, dw i’n clywed rhai ohonoch chi’n gofyn? Wel i ddechrau, dyma gyfle cyntaf y cefnogwyr i ddathlu gyda’u tîm gartref yng Nghaerdydd ar ddiwedd ymgyrch ble maen nhw wedi chwarae eu rhan yn wych.

Nid diwedd y daith yw cyrraedd twrnament rhyngwladol chwaith, wrth gwrs. Fe fydd y gêm hon yn gam cyntaf yn y paratoadau tuag at Ewro 2016, ac mae capten y tîm Ashley Williams eisoes wedi dweud ei fod o’n benderfynol o wneud yn siŵr mai dechrau pennod newydd fydd hwn.

Mi fydd Andorra eisiau dweud eu dweud wrth gwrs a cheisio sbwylio’r parti i Gymru, ond mewn gwirionedd fe fydd y crysau cochion yn ffefrynnau clir ar gyfer hon.

Ac wrth gwrs, ar ôl 58 mlynedd o aros, mae Cymru o’r diwedd yn cael cyfle i gynnal y parti mawr. ‘Sgwn i beth sydd gan y Gymdeithas Bêl-droed fyny eu llewys?

18.02: Beth am atgoffa’n hunain o pham mai gêm i ddathlu fydd hon, yn hytrach na gêm gystadleuol ble mae angen canlyniad ar Gymru, a hynny er mai hon yw’r ornest olaf yng ngrŵp rhagbrofol Ewro 2016.

Mae hynny oherwydd bod CYMRU WEDI SICRHAU EU LLE YN FFRAINC Y FLWYDDYN NESAF YN BAROD!

Sori, roedd rhaid i mi sgwennu hwnna mewn llythrennau bras. Fel y gallwch chi weld, dw i wedi cyffroi, ac fe fydd na 33,000 o bobl eraill yn y stadiwm yn teimlo’r union yr un peth heno.

Mae hi wedi cymryd 58 mlynedd, ond o’r diwedd fe fyddwn ni mewn pencampwriaeth bêl-droed ryngwladol y flwyddyn nesaf, a hynny er i ni golli 2-0 ym Mosnia nos Sadwrn.

18.00: Helo a chroeso mawr i chi i flog byw Cymru v Andorra yma ar Golwg360 efo fi, Iolo Cheung! Os ydych chi’n darllen hwn wedyn mae’n bosib iawn nad ydych chi’n un o’r rheiny fydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer gêm heno.

Ond peidiwch â phoeni. Mi fyddai yma yn fyw o’r stadiwm dros yr oriau nesaf i ddod a’r diweddaraf i chi am y tîm, y gêm, ac wrth gwrs y dathliadau, gydag ambell fideo arbennig i chi hefyd gobeithio.

Ac i chi sydd yn darllen hwn ac ar eich ffordd i’r gêm, mi fuasai’n well i chi ei siapio hi bysa! Mae Cymdeithas Bêl-droed wedi addo digon o adloniant cyn ac ar ôl y gêm heno, ac mi rydan ni’n edrych ymlaen at hynny’n barod.