Chris Coleman
Fe fydd cefnogwyr Cymru yn cael eu cyfle nhw i ddathlu â’r tîm pêl-droed cenedlaethol yng Nghaerdydd heno ar ôl ymgais llwyddiannus bechgyn Chris Coleman i gyrraedd Ewro 2016.

Andorra yw’r ymwelwyr i Stadiwm Dinas Caerdydd heno ar gyfer gêm olaf yr ymgyrch ragbrofol, ond mae Cymru eisoes yn saff o’u lle yn Ffrainc yn dilyn canlyniadau’r penwythnos.

Mae’n golygu ei bod hi’n debygol y bydd Chris Coleman yn newid rhywfaint ar ei dîm ar gyfer yr ornest yn erbyn Andorra – er bod y rheolwr wedi mynnu na fydd e’n gwneud newidiadau sylweddol.

Dywedodd rheolwr Andorra y byddai yntau yn debygol o newid rhywfaint ar ei dîm ef wedi iddyn nhw golli 4-1 yn erbyn Gwlad Belg dridiau yn ôl.

Cyfle i Owain Fôn?

Fe awgrymodd Chris Coleman wrth siarad â’r wasg ddoe ei fod yn ystyried newid ffurf ei dîm ar gyfer yr ornest heno a fyddai mwy na thebyg yn golygu dychwelyd i chwarae pedwar amddiffynnwr yn y cefn.

Byddai hynny’n golygu cyfle i un o’r ymosodwyr wnaeth ddim dechrau’r gêm yn erbyn Bosnia, gyda Sam Vokes yn cystadlu am le fel blaenwr ac mae’n bosib y bydd chwaraewyr fel Jonny Williams neu Emyr Huws yn cael cyfle.

Fe allai Coleman hefyd gymryd y cyfle, yn erbyn tîm gwanaf y grŵp, i roi cap i Owain Fôn Williams gan mai Wayne Hennessey yw’r unig un o’r tri golwr yn y garfan ar hyn o bryd sydd â phrofiad rhyngwladol.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau yn barod eu bod nhw wedi bod yn paratoi dathliadau cyn ac ar ôl y gêm i nodi’r ffaith bod Cymru wedi cyrraedd eu twrnament rhyngwladol cyntaf ers 58 mlynedd.

Mae seren y tîm, Gareth Bale, eisoes wedi canmol cyfraniad y cefnogwyr i ymgyrch llwyddiannus Cymru, ac mae disgwyl i 33,000 ohonyn nhw lenwi Stadiwm Dinas Caerdydd o 7.00yh ymlaen heno cyn y gic gyntaf am 7.45yh.