Mae tri o unigolion a phrosiectau o Gymru wedi cael eu henwebu ar gyfer y Gwobrau Criced Asiaidd blynyddol.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni arbennig yn Lord’s yn Llundain nos Fawrth.

Prosiect Amrywiaeth

Mae prosiect ‘Cricket Beyond Boundaries’, dan nawdd Chwaraeon Cymru, ar y rhestr fer ar gyfer y prosiect amrywiaeth gorau a hynny am ei gyfraniad i’r gymuned du a lleiafrifoedd ethnig.

Mae’r prosiect, sydd yn nwylo’r cydlynydd Ali Abdi a Mark Frost o Glwb Criced Morgannwg a chorff Criced Cymru, yn gyfrifol am drefnu clybiau criced dros dro ym mhob cwr o Gaerdydd, gan ganolbwyntio ar ardaloedd lle nad oes clybiau parhaol.

Penllanw’r prosiect oedd cynnal Cwpan Gilbert yn y Swalec SSE ar ddiwrnod yr ornest 50 pelawd rhwng Morgannwg a Swydd Hampshire y tymor hwn.

Derbyniodd hanner cant o bobol ifainc o gefndiroedd lleiafrifol hyfforddiant ar ddiwrnod y gêm, ac fe ffurfion nhw’r osgordd wrth i’r timau ddod i’r cae.

Ysbrydoliaeth

Ar y rhestr fer yn y categori Ysbrydoliaeth mae Sohail Rauf, cadeirydd Clwb Criced Asiaid Cymru.

Mae e’n gyfrifol am hyfforddi timau dan 9 oed a dan 11 oed y clwb, ac mae’n ysgrifennydd ar Gynghrair Criced Morgannwg a Sir Fynwy, gan gydweithio â Chlwb Criced Morgannwg a Chriced Cymru i gefnogi’r gymuned du a lleiafrifoedd ethnig.

Mae e hefyd ynghlwm wrth sefydlu’r Cyngor Criced Asiaidd Cenedlaethol, fydd yn cydweithio’n uniongyrchol yn y pen draw â Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Menywod yn y byd criced

Ymhlith y menywod sydd wedi eu henwebu ar gyfer y gwobrau mae Hannaa Zaman, fu’n hyfforddwraig gyda Chlwb Criced Morgannwg, Criced Cymru a’r MCC ers deng mlynedd.

Mae hi’n gyfrifol am hyfforddi chwaraewyr lleol, timau ysgolion a chwaraewyr élit, yn ogystal ag annog rhagor o ferched o leiafrifoedd ethnig i gymryd rhan yn y byd criced.

Dywedodd Prif Weithredwr Criced Cymru, Peter Hybart: “Mae cael tri o enwebiadau ar y rhestr fer yn dyst i’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud o fewn y gymuned du a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

“Mae cryn dipyn o frwdfrydedd a doniau criced ar draws y cymunedau yng Nghymru ac rwy wrth fy modd fod hyn yn cael ei gydnabod trwy’r enwebiadau hyn ar y rhestr fer.”