Mae disgwyl i gyfyngiadau newydd ar dafarnau, bariau a bwytai yng Nghymru gael eu cyhoeddi yfory (dydd Llun, Tachwedd 30).
Y gobaith yw lleihau ymlediad y coronafeirws unwaith eto cyn cyfnod y Nadolig, yn ôl y prif weinidog Mark Drakeford.
Ochr yn ochr â’r cyfyngiadau newydd, bydd pecyn cymorth i’r diwydiant lletygarwch yn cael ei gyhoeddi.
Mae disgwyl i sinemâu, canolfannau bowlio deg a lleoliadau adloniant dan do eraill gau fel rhan o’r cyfyngiadau.
Ond fe fydd gwasanaethau nad ydyn nhw’n hanfodol, gan gynnwys siopau, siopau trin gwallt a chanolfannau hamdden aros ar agor.
Roedd gostyngiad yn nifer y rhai a gafodd eu heintio yn ystod y cyfnod clo dros dro, oedd wedi para 17 diwrnod, ond mae’r niferoedd wedi cynyddu eto ers hynny.
Mae tafarnau, bariau a bwytai wedi bod ar agor ers diwedd y cyfnod clo dros dro ar Dachwedd 9, er bod rhaid iddyn nhw roi’r gorau i werthu alcohol am 10 o’r gloch.