Fe wnaeth yr heddlu stopio 110 o yrwyr yn ystod y 24 awr cyntaf o wiriadau ar hap yng Nghaerdydd i atal pobol rhag teithio i’r brifddinas o ardaloedd sydd â chyfraddau coronafeirws uchel.

Daeth pwerau newydd yr heddlu i rym am 9 o’r gloch fore Gwener (Tachwedd 27), yn dilyn pryderon fod nifer fawr o bobol wedi ymgasglu yn y brifddinas y penwythnos diwethaf ar ôl teithio o ardaloedd lle mae tafarnau ynghau oherwydd cyfraddau coronafeirws uchel.

Fe fu mwy o blismyn yn y brifddinas nag arfer dros y penwythnos, a bydd y mesurau mewn grym tan 5 o’r gloch heno (nos Sul, Tachwedd 29).

Fe wnaethon nhw roi 12 Hysbysiad Cosb Benodedig a 15 rhybudd a gorchymyn i adael y brifddinas.

Ymhlith y rhai a gafodd eu stopio roedd cwpl o Essex a ddywedodd eu bod nhw wedi teithio yno i roi anrhegion Nadolig i’w teulu, a chriw o naw o bobol oedd wedi teithio gyda’i gilydd i ymweld â ffrindiau yn y brifysgol.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r rhai sy’n cadw at y cyfyngiadau, ond yn dweud bod eraill “yn parhau i achosi risg cynyddol i bobol eraill”.