Mae Adam Price yn dweud mai Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, fyddai’n derbyn ei alwad ffôn gyntaf ar ôl iddo ddod yn Brif Weinidog Cymru.

Fe fydd arweinydd Plaid Cymru’n annerch Cynhadledd Genedlaethol Flynyddol yr SNP heddiw (dydd Sul, Tachwedd 29).

Yn ei araith, mae disgwyl iddo fe dynnu sylw at y cysylltiadau hanesyddol rhwng Plaid Cymru a’r SNP, nid lleiaf eu dyhead am annibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl iddo fe ddweud: “Fy ngalwad ffôn swyddogol gyntaf fel Prif Weinidog cyntaf Cymru sydd o blaid annibyniaeth fis Mai nesaf fydd i’ch Prif Weinidog chi.”

Fe fydd yn mynegi ei ddymuniad i “ehangu” y berthynas rhwng Cymru a’r Alban, gan addo sefydlu’r “Uwchgynhadledd Geltaidd” gyntaf yn haf 2021 er mwyn amlinellu nodau a phwrpas cyffredin “wrth i annibyniaeth a chydweithredu cydfuddiannol ddod yn rhan o’r normal newydd”.

Mae disgwyl hefyd y bydd yn cyfeirio at y disgrifiad o Boris Johnson, prif weinidog Prydain, fel yr “asiant recriwtio mwyaf erioed dros annibyniaeth”, gan ddweud ei fod yn “ailadeiladu’n chwerw” yn hytrach nag ailadeiladu’n well.

Bydd yn dweud: “Mae gennym lasbrint i’n gwledydd nid yn unig i fod yn genhedloedd cyfartal ochr yn ochr â phob un arall, ond i fod yn genhedloedd o gydraddolion.

“Allwn ni ddim ‘Zoomio’ ein ffordd tuag at annibyniaeth heb adeiladu ‘Timau’ i wneud iddo weithio.”

fe fydd e hefyd yn tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng “y dirywiad yn enw da prif weinidog y Deyrnas Unedig” ac “arweinyddiaeth ragorol” prif weinidog yr Alban.

‘Cwlwm rhwng yr SNP a Phlaid Cymru’

Fe fydd Adam Price yn dweud: “Dros y misoedd nesaf bydd Plaid Cymru yn dadlau’r achos mai dim ond drwy newid Llywodraeth y bydd newid Cymru er gwell yn digwydd.

“Gadewch i neb fod mewn unrhyw amheuaeth y byddaf yn arwain tîm a phlaid sydd yn glir yn ei chyfeiriad, yn unedig yn ei nod, wedi ymrwymo i gynnal ac ennill refferendwm annibyniaeth cyn gynted ag y gallwn.

“Yr achos cyffredin hwn sy’n sylfaen i’r cwlwm rhwng yr SNP a Phlaid Cymru, a’m breuddwyd i yw gweld y ddwy wlad hyn yn dod at ei gilydd i gyd o dan un faner, mewn Uwchgynhadledd Geltaidd i fapio ein nodau a’n diben cyffredin wrth i annibyniaeth a chydweithrediad cydfuddiannol ddod yn rhan o’r normal newydd.

“Dyna pam mai Nicola Sturgeon fydd fy ngalw ffôn swyddogol cyntaf fel Prif Weinidog Cymru sydd o blaid annibyniaeth fis Mai nesaf.

“Mae’r pandemig wedi amlygu gormodedd gwaethaf rheolaeth San Steffan: Contractau PPE amheus, cyfundrefn brofi drychinebus, a ‘chumocracy’ Torïaidd sy’n tyfu bob dydd.

“Yng Nghymru, fe wnaethant ddwyn ein profion, yn yr Alban hefyd, gwrthodasant ymestyn ffyrlo, a nawr maent yn ymosod ar ddatganoli ei hun.

“Gwobr y Canghellor am aberth a brwydr gweithwyr y sector cyhoeddus yw’r bilsen wenwynig o rewi cyflogau cyhoeddus.

“Ond mae gennym ni lasbrint i’n gwledydd nid yn unig i fod yn genhedloedd cyfartal ochr yn ochr â phob un arall, ond gwledydd o gydraddolion, teg a rhydd, lle mae rhyddid yn allweddol i ffyniant pawb.”