Pum mlynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig, mae’r Gweinidog Iechyd wedi ei gyhuddo o roi gwleidyddiaeth cyn cleifion.

Ar ôl bod dan fesurau arbennig ers 2015, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ddydd Mawrth byddai’r Bwrdd Iechyd yn dod allan o’r mesurau arbennig ac yn destun ymyriadau wedi’u thargedu yn lle hynny.

Ond mae’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi beirniadu penderfyniad.

Mark Isherwood

“Does gen i ddim byd ond canmoliaeth i’r staff meddygol arwrol a gweithgar sy’n gweithio’n galed yn ein hysbytai yng Ngogledd Cymru,” meddai.

“Mae fy mhryderon mewn mannau eraill.”

Amseroedd aros

Cyfeiriodd at ystadegau sydd yn dangos mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â’r amseroedd aros gwaethaf yng Nghymru.

Ysbyty Maelor Wrecsam oedd waethaf gyda dim ond 48% o gleifion yn cael eu gweld o fewn 4 awr, ac ame bron i 11% o gleifion ar draws y Bwrdd Iechyd yn gorfod aros mwy na 12 awr.

Wrth wneud y cyhoeddiad ddoe, mynnodd Vaughan Gething fod y penderfyniad yn “newyddion cadarnhaol” i bobol yng Ngogledd Cymru.

Ar ôl i adroddiad diweddar ddod i’r casgliad fod adrannau iechyd meddwl wedi gwneud cynnydd “siomedig”, cwestiynodd Mark Isherwood a oedd hi’n addas i dynnu’r Bwrdd Iechyd o fesurau arbennig.

Awgrymodd y dylai’r Llywodraeth fod wedi aros nes bod y Prif Weithredwr newydd, Jo Whitehead, yn dechrau yn ei swydd yn y flwyddyn newydd.

“Yn hytrach na chamu i’r tywyllwch pam nad ydych chi’n aros i’r pethau hyn ddigwydd a rhoi cleifion o flaen gwleidyddiaeth?” Ychwanegodd Mark Isherwood.

Undeb yn croesawu’r cyhoeddiad

Mae cynrychiolwyr UNSAIN Betsi Cadwaladr wedi canmol ymdrechion gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd.

“Mae’r penderfyniad hwn yn cyfiawnhau gwaith caled pob un gweithiwr gofal yn Betsi,” meddai Jan Tomlinson, ysgrifennydd cangen UNSAIN.

“Nid yw’r pum mlynedd diwethaf wedi bod yn hawdd iddynt ond penderfynodd UNSAIN i weithio’n agos â nhw i droi’r bwrdd iechyd o gwmpas. Roedd angen i ni roi safbwynt y staff wrth wraidd penderfyniadau strategol ac roedd angen i uwch weithredwyr glywed gan weithwyr.

“Hoffwn ganmol proffesiynoldeb a gofal staff sydd wedi gweithio’n ddiflino er mwyn sicrhau fod y Bwrdd Iechyd yn cael ei dynnu allan o fesurau arbennig.

“Mae staff gofal iechyd wedi croesawu newid ac yn parhau i ddarparu’r gofal gorau i bob claf a’r gymuned ehangach.”