Mae Jo Whitehead wedi ei phenodi fel prif weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Daw hyn yn dilyn adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad y llynedd oedd yn dangos bod “pryderon difrifol” am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn ôl yr adroddiad, roedd y Bwrdd Iechyd wedi methu â chyrraedd targedau amser, wedi gweld diffyg cynnydd o ran gwella gwasanaethau iechyd meddwl, ac wedi gorwario hyd at £41.3m.

Bydd Jo Whitehead yn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fis Ionawr, ar ôl cyfnod yn brif weithredwr ar Ysbyty a Gwasanaeth Iechyd Mackay yn Queensland, Awstralia.

Mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y maes gofal iechyd yng ngwledydd Prydain ac Awstralia.

Cafodd Jo Whitehead ei magu yng ngogledd Cymru, ac yn ôl y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething, mae ganddi ddealltwriaeth gadarn o’r heriau iechyd a gofal cymdeithasol yn y rhanbarth.

‘Anrhydedd’

Eglurodd Jo Whitehead ei bod hi’n edrych ymlaen at weithio i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

“Mae’n anrhydedd fawr i mi gael y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a gwella canlyniadau iechyd ar draws ein cymunedau yng Ngogledd Cymru,” meddai Jo Whitehead.

“Rwy’n benderfynol o helpu’r Bwrdd Iechyd i fodloni ei heriau a darparu gwasanaethau gofal iechyd y gall ein cymunedau a’n staff fod yn falch ohonynt.

“Am nifer o flynyddoedd, rwyf wedi edmygu’r strwythur sy’n canolbwyntio ar bartneriaeth yn y GIG yng Nghymru a’r posibiliadau mae hynny’n ei ddarparu ar gyfer datblygu gwasanaethau gofal iechyd cynaliadwy, gwych ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith.”

Bydd Simon Dean, y prif weithredwr dros dro, yn dychwelyd i’w swydd fel dirprwy brif weithredwr Gwasanaeth Iechyd Cymru o Fedi 1 ymlaen.

Dywedodd Mark Polin, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ei fod yn falch o groesawu Jo Whitehead yn ôl i Gymru.

“Bydd Jo yn darparu’r arweinyddiaeth a’r profiad y mae’r Bwrdd Iechyd ei angen ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd i barhau i yrru’r newid a gwneud gwelliannau i’n gwasanaethau,” meddai.

“Mae gan Jo gyfoeth o brofiad mewn gofal iechyd yn y DU ac Awstralia, yn ogystal â chysylltiadau cryf â Gogledd Cymru, a fydd yn fudd enfawr.”