Mae Hashem Abedi wedi gwrthod cymryd rhan yn y gwrandawiad i’w ddedfrydu am ei ran mewn ffrwydrad yn Arena Manceinion yn 2017.

Mae’r dyn 23 oed yn frawd i Salman Abedi, prif drefnydd y digwyddiad a laddodd 22 o bobol oedd yn bresennol ar gyfer cyngerdd Ariana Grande.

Er nad oedd e yn yr ystafell ar gyfer y gwrandawiad, mae lle i gredu ei fod e yn yr adeilad ond fe gafodd y llys wybod nad oedd e’n fodlon bod yn rhan o’r achos.

Fe wnaeth teuluoedd rhai o’r bobol fu farw ymuno trwy gyswllt fideo â’r Old Bailey o Fanceinion, Leeds, Newcastle a Glasgow.

Dywedodd y barnwr nad oedd modd gorfodi’r diffynnydd i fynd i’r llys, ac mai mater i’r Gwasanaeth Prawf fyddai hynny maes o law.

Yr achos

Cafwyd Hashem Abedi yn euog ym mis Mawrth o 22 cyhuddiad o lofruddio, ceisio llofruddio a chynllwynio i achosi ffrwydrad a fyddai’n debygol o beryglu bywydau.

Clywodd y llys ei fod e wedi helpu ei frawd i archebu, casglu a storio ffrwydron ar gyfer yr ymosodiad ar Fai 22, 2017.

Teithiodd e i Libya fis cyn y ffrwydrad, ac fe gafodd ei arestio oriau’n unig ar ôl y digwyddiad a laddodd ei frawd, a’i estraddodi i Brydain.

Dywedodd e wrth y llys ar y pryd ei fod e’n barod i gydweithredu er mwyn profi nad oedd e’n euog, ond doedd e ddim yn bresennol ar gyfer rhan helaeth o’r achos ac fe ddiswyddodd ei gyfreithwyr.

Mae’n golygu nad oedd y teuluoedd wedi gallu clywed gan y dyn mae’r heddlu’n ei amau o gynllwynio’r digwyddiad.

Fydd dim modd iddo gael tariff oes o garchar gan ei fod e o dan 21 oed ar adeg y ffrwydrad, ond fe allai gael sawl dedfryd oes a gorfod treulio o leiaf 30 o flynyddoedd dan clo.

Clywodd y llys ei fod e wedi ceisio rhoi’r bai am y cyfan ar ei ddiweddar frawd.